Dwyrain Swydd Gaer

awdurdod unedol yn Swydd Gaer

Awdurdod unedol gyda statws bwrdeistref yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Dwyrain Swydd Gaer (Saesneg: Cheshire East).

Dwyrain Swydd Gaer
Mathbwrdeisdref, ardal awdurdod unedol yn Lloegr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSwydd Gaer Edit this on Wikidata
PrifddinasSandbach Edit this on Wikidata
Poblogaeth380,790 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2009 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaer
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd1,166.3576 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBwrdeistref Fetropolitan Stockport Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1622°N 2.2175°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000049 Edit this on Wikidata
GB-CHE Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Cheshire East Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,166 km², gyda 384,152 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Orllewin Swydd Gaer a Chaer i'r gorllewin, Bwrdeistref Warrington i'r gogledd-orllewin, Manceinion Fwyaf i'r gogledd, Swydd Derby i'r dwyrain, Swydd Stafford i'r de-ddwyrain, a Swydd Amwythig i'r de.

Dwyrain Swydd Gaer yn Swydd Gaer

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 2009. Disodlodd yr hen ardaloedd an-fetropolitan Bwrdeistref Macclesfield, Bwrdeistref Congleton a Bwrdeistref Crewe a Nantwich a ddaeth i gyd o dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Gaer, a ddiddymwyd ar yr un dyddiad.

Rhennir Dwyrain Swydd Gaer yn 148 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Sandbach. Mae aneddiadau eraill yn y fwrdeistref yn cynnwys Alsager, Bollington, Congleton, Crewe, Knutsford, Macclesfield, Middlewich, Nantwich, Poynton, a Wilmslow.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 15 Medi 2020