August Bebel
Gwleidydd ac awdur sosialaidd o Almaenwr oedd August Bebel (22 Chwefror 1840 – 13 Awst 1913) sydd yn nodedig fel un o sefydlwyr Plaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen ac am arwain yr honno am 44 mlynedd, ers ei sefydlu hyd at ei farwolaeth.
August Bebel | |
---|---|
August Bebel (tua 1900). | |
Ganwyd | 22 Chwefror 1840 Deutz, Cwlen |
Bu farw | 13 Awst 1913 o trawiad ar y galon Passugg |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
Galwedigaeth | gwleidydd, ysgrifennwr, turner |
Swydd | member of the Reichstag of the German Empire, member of the Reichstag of the North German Confederation, Member of the Customs Parliament |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Social Democratic Workers' Party of Germany, Saxon People's Party |
Priod | Julie Bebel |
Plant | Bertha Friederike Bebel |
llofnod | |
Ganed ef yn Deutz, ger Cwlen, yn Nheyrnas Prwsia. Turnio oedd ei grefft. Ymunodd â Chymdeithas Addysg Gweithwyr Leipzig ym 1861 a phenodwyd yn gadeirydd yr honno ym 1865. Dylanwadwyd arno gan syniadau ei gyfaill Wilhelm Liebknecht, ac ym 1869 cyd-sefydlasant y Blaid Lafur Ddemocrataidd Gymdeithasol (yn ddiweddarach y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol). Gwasnaethodd yn y Reichstag ym 1867, 1871–81, a 1883–1913. Fe'i carcharwyd am bum mlynedd i gyd, gan gynnwys am enllibio'r Canghellor Otto von Bismarck. Ysgrifennodd sawl traethawd a gwaith propaganda, gan gynnwys Die Frau und der Sozialismus (1879).
Bywyd cynnar golygu
Ganed August Bebel ar 22 Chwefror 1840 yn Deutz—tref sydd bellach yn rhan o ganol dinas Cwlen—ar lan Afon Rhein, yn Nhalaith y Rheindir, Prwsia. Swyddog digomisiwn ym Myddin Frenhinol Prwsia oedd ei dad. Cafodd August ei fagu mewn tlodi yn Wetzlar—a oedd yn allglofan i Dalaith y Rheindir—ac yno dysgodd grefft y turniwr. Teithiodd ar draws de'r Almaen ac Awstria yn cynnig ei waith, ac yng ngwanwyn 1860 ymsefydlodd yn Leipzig, Teyrnas Sachsen. Ymaelododd â Chymdeithas Addysg Gweithwyr Leipzig ym 1861, a daeth yn gadeirydd ym 1865.[1]
Gyrfa wleidyddol golygu
Ymsefydlodd William Liebknecht yn Leipzig ym 1865, wedi iddo gael ei ddiarddel o Ferlin am ei wrthwynebiad i lywodraeth Bismarck. Daeth y ddau ohonynt yn gyfeillion agos, a dylanwadodd syniadaeth sosialaidd Liebknecht yn gryf ar feddwl Bebel. Sefydlasant Blaid y Bobl Sacsonaidd (SVP) yn sgil Rhyfel Awstria a Phrwsia (1866), ac ym 1867 etholwyd Bebel i Reichstag Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen fel aelod o'r blaid. Ym 1869 unodd yr SVP gyda phleidiau eraill i ffurfio'r Blaid Lafur Ddemocrataidd Gymdeithasol (SDAP), a fyddai'n newid ei enw i Blaid Lafur Sosialaidd yr Almaen (SAPD) ym 1875 ac i Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen (SDP) ym 1890.
Diwedd ei oes golygu
Bu farw August Bebel yn Passugg yn y Grisons, y Swistir, yn 73 oed.[1]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) August Bebel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Gorffennaf 2022.
Darllen pellach golygu
- Francis L. Carsten, August Bebel und die Organisation der Massen (Berlin: Siedler, 1991).
- William Harvey Maehl, August Bebel: Shadow Emperor of the German Workers (Philadelphia: American Philosophical Society, 1980).