August Bournonville
Meistr bale a choreograffydd Danaidd oedd August Bournonville (21 Awst 1805 - 30 Tachwedd 1879). Bu'n astudio ym Mharis fel dyn ifanc. Daeth yn ddawnsiwr unigol gyda Bale Brenhinol Denmarc yng Nghopenhagen. Daeth yn goreograffydd y cwmni o 1830 i 1877. Creodd dros 50 sioe bale, ond prin yw'r rhai sydd wedi goroesi. Dim ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth ei waith ym myd y bale yn adnabyddus y tu allan i Ddenmarc.[1]
August Bournonville | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Awst 1805 ![]() Copenhagen ![]() |
Bu farw | 30 Tachwedd 1879 ![]() Copenhagen ![]() |
Dinasyddiaeth | Denmarc, Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | meistr mewn bale, coreograffydd, dawnsiwr bale ![]() |
Tad | Antoine Bournonville ![]() |
Plant | Charlotte Bournonville ![]() |
Ei waith mwyaf adnabyddus yw Napoli.
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Terry, Walter. The King's Ballet Master: A Biography of Denmark's August Bournonville. New York: Dodd, Mead, & Company, 1979. ISBN 0-396-07722-6.