Mae Napoli yn sioe bale mewn tri symudiad. Ysgrifennwyd stori gefndirol y bale a threfnwyd ei dawnsfeydd gan August Bournonville. Cafodd y gerddoriaeth ei hysgrifennu gan Helsted, Gade, a Paulli. Perfformiwyd Napoli gyntaf gan Bale Brenhinol Denmarc yn Nghopenhagen ar 29 Mawrth 1842. Nid yw Napoli wedi newid dros y blynyddoedd. Mae'n cael ei pherfformio yn Nghopenhagen heddiw yn union fel yr oedd yn cael ei pherfformio ym 1842.[1] Dywedir mai Napoli yw bale gorau Bournonville

August Bournonville tua 1828

Cymeriadau golygu

  • Teresina: merch Eidalaidd ifanc sydd mewn cariad â Gennaro
  • Gennaro: pysgotwr Eidalaidd ifanc sydd mewn cariad â Teresina
  • Veronica: mam Teresina
  • Peppo: hen ddyn cyfoethog sy'n werthwr lemonêd sy'n caru Teresina.
  • Giacomo: hen ddyn cyfoethog sy'n werthwr macaroni sy'n caru Teresina.
  • Y Tad Ambrosio: mynach
  • Golfo: Un o gythreuliaid y môr sy'n dra arglwyddiaethu dros y Groto Glas.

Y Stori golygu

Act 1 (Y Farchnad) golygu

Gan nad yw Veronica, Mam Teresina, yn dymuno i'w merch briodi Gennaro, morrwr tlawd, mae hi'n cyflwyno Tresina i ddau ddarpar ŵr mwy goludog, ond hen, Peppo a Giacomo mae Teresina, er mawr ofid i'w mam, yn eu gwrthod ac mynnu aros yn driw i Gennaro. Pan mae Gennaro yn cyrraedd yn ôl i'r porthladd mae Teresina'n mynd ag ef i weld Veronica gan geisio ei hargyhoeddi y dylent briodi. Yn ffodus iddynt hwy mae'r dasg hon yn profi'n gymharol hawdd ar ôl iddi weld gwir gariad y cwpl ifanc. Yn llawn o hapusrwydd mae Teresina a Gennaro yn hwylio i ffwrdd gyda'i gilydd.

Yn y cyfamser mae grŵp o ddiddanwyr yn dod i roi sioe i bobl y dref. Fodd bynnag, mae storm ffyrnig yn dechrau ac mae'r dathliadau yn dod i ben yn sydyn. Pan ddaw'r storm i ben ceir hyd i Gennaro yn fyw ac yn iach, ond nid Teresina. Gan feddwl ei bod hi wedi boddi mae Veronica'n galaru yn agored am ei merch ac yn beio Gennaro am ei marwolaeth. Wedi ei gynhyrfu gan y digwyddiad mae Gennaro yn ystyried cyflawni hunanladdiad, ond yn stopio pan mae'n gweld cerflun o'r Forwyn Mair. Cyn bo hir mae'r Brawd Ambrosio, y mynach lleol, yn ymddangos ac yn rhoi darlun o'r Forwyn Mair iddo ac yn dweud wrtho am geisio a dod o hyd i Teresina.[2]

Act 2 (Y Groto Glas) golygu

Mae Gennaro yn edrych ymhobman ar gyfer Teresina ac yn y pendraw mae'n dod o hyd iddi yn y Groto Glas, lle hudolus sy'n cael ei reoli gan Golfo sydd wedi troi Teresina i mewn i Naiad (Ellyll y Môr). Oherwydd trawsnewidiad Teresina nid yw hi mwyach yn cofio Gennaro. Fodd bynnag, trwy ffydd a gweddïo ar y Forwyn Mair mae Teresina yn cael ei newid yn ôl i fod dynol, ac mae ei chof yn cael ei hadfer. Mae Gennaro a Teresina'n gadael y Groto ar frys ac yn dychwelyd i Napoli.

Act 3 (Y Briodas) golygu

Ar ôl i Teresina a Gennaro dychwelyd mae pobl y dref yn amheus, gan eu bod yn sicr bod Teresina wedi marw; mae Peppo a Giacamo yn ceisio darbwyllo'r bobl mae dewiniaeth sy'n gyfrifol am achub Tresenia a bod Gennaro wedi dod i gytundeb gyda Satan. Ond mae'r Tad Ambrosio yn eu darbwyllo mae gwyrth dan fendith y Forwyn Fair oedd yn gyfrifol. Mae'r wledd priodas yn mynd rhagddi.[3]

Y Gerddoriaeth golygu

Bu nifer o gyfansoddwyr yn cyfrannu at y sgôr: cyfansoddwyd Act 1 ac Act 2 gan Edvard Helsted a Holger Simon Paulli. Crëwyd awyrgylch y Groto Glas yn Act 2 gan Niels W. Gade a gynhwysodd alaw boblogaidd o'r cyfnod, La Melancholie, a gyfansoddwyd gan François Henri Prume. Gofynnodd Bournonville i H.C. Lumbye ddarparu'r gerddoriaeth ar gyfer y Galop gloi sy'n dilyn Tarantella Paulli mae'r emyn Lladin O Santissima yn cael ei ddefnyddio yn y ail Act i danlinellu grym Cristnogaeth dros Golfo.

Cyfeiriadau golygu

  1. Royal Danish Ballet The Bournonville Festival -- 'Napoli' -Worth the wait [1] Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 5 Mai 2015
  2. New York Times 17Gorffennaf, 1988 Adolygiad o Napoli [2] adalwyd 5 mai 2015
  3. Balanchine, George (1975), 101 Stories of the Great Ballets, Anchor Books ISBN 0-385-03398-2