Awstria Isaf
Talaith yng ngogledd-ddwyrain Awstria yw Awstria Isaf (Almaeneg: Niederösterreich). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,545,804, yr ail-fwyaf ymhlith taleithiau Awstria. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw St. Pölten, gyda phoblogaeth o 49,121.
Math | talaith yn Awstria, ardal hanesyddol |
---|---|
Prifddinas | Sankt Pölten |
Poblogaeth | 1,684,287 |
Anthem | O Heimat, dich zu lieben |
Pennaeth llywodraeth | Johanna Mikl-Leitner |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Awstria |
Gwlad | Awstria |
Arwynebedd | 19,186 km² |
Uwch y môr | 279 metr |
Yn ffinio gyda | Awstria Uchaf, Styria, Burgenland, Fienna, South Bohemian Region, South Moravian Region, Trnava Region, Bratislava Region |
Cyfesurynnau | 48.33°N 15.75°E |
AT-3 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Landtag of Lower Austria |
Pennaeth y Llywodraeth | Johanna Mikl-Leitner |
Hyd 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria dan yr enw Österreich unter der Enns. O 1938 hyd 1945, Niederdonau oedd ei henw. Rhennir y dalaith yn bedair tiriogaeth hanesyddol, y Weinviertel yn y gogledd-ddwyrain, y Waldviertel yn y gogledd-orllewin, y Mostviertel yn y de-orllewin a'r Industrieviertel yn y de-ddwyrain.
Rhennir y dalaith yn bedair dinas annibynnol (Statutarstädte) a 21 ardal (Bezirke).
Dinasoedd annibynnol
golyguArdaloedd
golygu- Amstetten
- Baden
- Bruck an der Leitha
- Gänserndorf
- Gmünd
- Hollabrunn
- Horn
- Korneuburg
- Krems-Land
- Lilienfeld
- Melk
- Mistelbach
- Mödling
- Neunkirchen
- Sankt Pölten-Land
- Scheibbs
- Tulln
- Waidhofen an der Thaya
- Wiener Neustadt-Land
- Wien-Umgebung
- Zwettl
Taleithiau Awstria | |
---|---|
Awstria Isaf | Awstria Uchaf | Burgenland | Carinthia | Fienna| Salzburg | Styria | Tirol | Vorarlberg |