BART
Mae BART (Bay Area Rapid Transit) yn system drafnidiaeth cyflym sy'n cysylltu San Francisco efo dinasoedd a threfi ar ochr ddwyreiniol Bae San Francisco, gan gynnwys Berkeley ac Oakland, ac yn gwasanaethu siroedd San Francisco, Alameda a Contra Costa. Defnyddir y rhwydwaith gan dros 350,000 o bobl yn ddyddiol.[1]
Math | trafnidiaeth gyflym, uwchbrosiect cludiant ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 11 Medi 1972 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | San Francisco Bay Area ![]() |
Gwlad | ![]() |
Nifer y teithwyr | 129,300,000 ±50000, 123,500,000 ![]() |
Perchnogaeth | Alameda County, Contra Costa County, San Francisco ![]() |
Mae 44 o orsafoedd a 104 o filltiroedd o gledrau.[2] Lled y cledrau yw 1.676mm, ac mae trydedd cledr yn cyflenwi 1000 folt o drydan i'r trenau.
Leiniau'r rhwydwaithGolygu
Mae gan BART 5 lein:-
Y Lein FelenGolygu
Pittsburg/Bay Point – Maes Awyr San Francisco
Y Lein GochGolygu
Richmond – Daly City/Millbrae
Y Lein WerddGolygu
Fremont – Daly City
Y Lein OrenGolygu
Richmond – Fremont
Y Lein LasGolygu
Dublin/Pleasanton - Daly City/Millbrae
Cysylltu gyda gwasanaethau eraillGolygu
Cysylltir rhwydwaith o dramffyrdd Muni efo BART yn sawl gorsaf yn San Francisco, a hefyd y lein Metrolink rhwng San Francisco a Los Angeles yng Ngorsaf San Matteo.
Y DyfodolGolygu
- Bwriedir ymestyn BART o Fremont i Berryessa, yn San Jose, er mwyn gwasanaethu Dyffryn Silicon.[3]
- Bwriedir ymestyn BART o Pittsburg/Bay Point i'r dwyrain Swydd Contra Costa wrth defnyddio trenau diesel llai.[4]
- Bwriedir ymestyn BART o Dublin/Pleasanton i Livermore.[5]
- Bwriedir ymestyn BART gan 5.4 milltir o Fremont i Warm Springs.[6]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Gwefan sanfrancisco.net". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-07. Cyrchwyd 2013-04-08.
- ↑ Gwefan Grant's
- ↑ "Gwefan Awdurdod Cludiant y Dyffryn, Santa Clara". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-03. Cyrchwyd 2013-04-08.
- ↑ Tudalen we BART am estyniad Contra Costa
- ↑ Tudalen we BART am estyniad i Livermore
- ↑ Tudalen we BART am estyniad i Warm Springs
Dolen allanolGolygu
Gwefan BART Archifwyd 2013-04-02 yn y Peiriant Wayback.