Talfyriad ydy BMW am Bayerische Motoren Werke AG (ynganiad Almaeneg: [baˈjɛɐ̯ɪʃə mɔˈtɔʁn̩ ˈvɛɐ̯kə] (Ynghylch y sain ymagwrando); yr Almaeneg am Bavarian Motor Works), sy'n gwmni ceir a beiciau modur sydd a'i bencadlys yn München, Bafaria, yr Almaen. Mae BMW hefyd yn berchen ac yn gyfrifol am gynhyrchu mathau o geir o dan yr enwau Mini a BMW hefyd yw rhiant gwmni Rolls-Royce Motor Cars. Mae'n cynhyrchu beiciau modur o dan yr enw 'BMW Motorrad' a cheir trydan dan yr is-frand BMW i e.e. BMW i3.

Bayerische Motoren Werke AG
Math o fusnes
Aktiengesellschaft (AG)
(cwmni corfforaethol wedi'i gyfyngu gan gyfranddaliadau)
Byrfodd stocFWBBMW
DiwydiantCeir
RhagflaenyddRapp Motorenwerke
Bayerische Flugzeugwerke AG (BFW)[1]
Automobilwerk Eisenach
SefydlwydMawrth 1916;
108 blynedd yn ôl
 (1916-03)
SefydlyddFranz Josef Popp, Karl Rapp, Camillo Castiglioni
PencadlysMünchen, Bafaria, Yr Almaen
Ardal gwerthiant
Bydeang
Pobl allweddol
Norbert Reithofer
(Cadeirydd y Bwrdd Cynghori)
Harald Krüger
(Cadeirydd y Bwrdd Rheoli)
CynnyrchCeir moethus, ceir cyflym, beiciau modur
Cynhyrchiad
2,117,965 car (2014)
tua 120,000 beic modur (2014)
Cyllid80.401  biliwn (2014)[2]
Enillion cyn llog
€8.707 biliwn (2014)[2]
Elw€5.817 biliwn (2014)[2]
Cyfanswm yr asedau€182.72 biliwn (2015)[2]
Cyfalaf€3.839 biliwn (2014)[2]
Perchennog/ionStefan Quandt: 25.8%
Susanne Klatten: 20.9%
Y cyhoedd: 53.3%
Gweithwyr
116,324 (2014)[2]
RhaniadauMini
BMW Motorsport
BMW i
BMW Motorrad
Is-gwmni/au
Slogan"Sheer Driving Pleasure" (Bydeang)
"The Ultimate Driving Machine" (UDA)
"The Ultimate Driving Experience" (Canada)
BMW Group
Ceir BMW

Mae'n un o brif gwmniau ceir moethus y byd.[3] Caiff ei restru ar yr 'Euro Stoxx 50' sef cyfnewidfa stoc.[4]

Yn 1917, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn unol â thermau Cytundeb Versailles, gorfodwyd y cwmni adeiladu awyrennau 'Rapp Motorenwerke' i beidio a chynhyrchu rhagor o awyrennau, a gorfodwyd nhw i droi at feiciau modur (1923), ceir (1928–29) a cherbydau eraill.[5][6]

Y car cyntaf i BMW ei gynhyrchu oedd y Dixi, a sylfaenwyd ar yr Austin 7, ar drwyddedwyd gan Gwmni Moduron Austin a oedd wedi'i leoli yn Birmingham, Lloegr.

Erbyn y 1930au roedd y cwmni wedi ailddechrau cynhyrchu awyrennau ar gyfer y Luftwaffe; yn wir, cynhyrchwyd peiriant ar gyfer awyrennau (y BMW IIIa) mor fuan a 1918. Roedd llawer iawn o weithwyr di-dâl yn eu ffatri yn München, gan gynnwys carcharorion a sifiliaid o wledydd eraill.

Yn 1958, yn hytrach na mynd yn fethdalwyr prynnwyd yr hawl i greu modelau o'r car Eidalaidd 'Iso Isetta' ac ailwampiwyd un o'u peiriannau gyrru beiciau modur ar ei gyfer.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "When was BMW founded?". BMW Education. BMW. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-25. Cyrchwyd 30 Medi 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 "Annual Report 2014" (PDF). BMW Group. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-09-23. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2015.
  3. "Best Global Brands – 2014 Rankings". Interbrand. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mawrth 2015. Cyrchwyd 26 Mawrth 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Cyfnewidfa Stoc Frankfurt Stock". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-08. Cyrchwyd 2016-01-28.
  5. Oppat, Kay (2008). Disseminative Capabilities: A Case Study of Collaborative Product Development in the Automotive. Gabler Verlag. ISBN 978-3-8349-1254-1.
  6. Kiley, David (2004). Driven: inside BMW, the most admired car company in the world. John Wiley and Sons. ISBN 978-0-471-26920-5.