Clefyd marwol gwartheg yw BSE (BovPrPsc: Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol, Ymenyddglwyf Sbungfurff Gwartheg neu Clefyd Gwartheg Gwallgof). Achosir gan prionau, sef ddarnau o brotein afiach sydd yn effiethio ar ymenydd y fuwch. Dinistrir yr ymenydd gan ei wneud fel sbwng gyda llawer o dyllau ynddo. Mae clefyd tebyg ar anifeiliaid eraill, hefyd—er enghraifft clefyd tebyg iawn ar cathod, clefyd y crafu (ShPrPsc) ar defaid a geifr ac afiechyd Creutzfeld-Jacob (CJD) a Kuru ar bobl.

BSE
Enghraifft o'r canlynolneurodegeneration, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathtransmissible spongiform encephalopathy, bovine disease, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Achoswyd yr epidemig presennol gan bwyt sydd yn cynnwys y protein asiant. Ers y 1970au diheintiwyd pryd cig ac asgyrn a porthiwyd i gwartheg ddim yn ddigon dda. Fel arfer mae'r afiechyd yn dechrau ar buwch sydd yn 4-5 blwydden oed. Mae prawf ar gyfer BSE heddiw, ond mae'n rhaid lladd y buwch er mwyn gwneud hynny. Achos does dim ffordd gwella'r afiechyd hon ac achos pryderon ar gyfer trosglwyddiad i fuchod eraill mae rhaid lladd a llosgi cyrff y gwartheg gan yr afiechyd arnynt. Fel arfer, ceir yr holl gyr ei lladd a'i llosgi.

Dechreuodd yr afiechyd hon yn y 1980au ym Mhrydain. Ym 1985 a 1986 darganfodwyd BSE ar deg buwch yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, achos gallen nhw ddim cerdded yn iawn. Ond mae'n bosib mai afiechyd fel hynny yn digwydd ers meitin heb cael ei cydnabod.

Trosglwyddiad i bobl golygu

Yn 2003 roedd afiechyd tebyg iawn ar 152 o bobl ym Mrydain. Ar gyfer llawer ohonyn oes prawf ar gyfer eu wedi bwyta cig buwch gan yr afiechyd arnynt. Yn bennaf mae'n rhaid osgoi bwyta meinwe nerfol a meinwe lymffatig yn ogystal ag esgyrn cefn gwartheg afiach.

Dolenni allanol golygu