Gafr
Geifr | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Bovidae |
Is-deulu: | Caprinae |
Genws: | Capra |
Rhywogaeth: | C. aegagrus |
Isrywogaeth: | C. a. hircus |
Enw trienwol | |
Capra aegagrus hircus (Linnaeus, 1758) |
Mae'r afr yn anifail gwyllt, pedair coes (enw Lladin: Capra hircus) sy'n dod o Asia a dwyrain Ewrop yn wreiddiol. Ceir geirf dof hefyd a megir y rhain ers tua 10,000 o flynyddoedd am eu croen a'u cig a defnyddir llaeth gafr i wneud caws. Dofwyd geifr yn gynharach na gwartheg a defaid.
Yng Nghymru
golyguYng Nghymru, hyd at y 16g, mae'n bosib fod mwy o eifr nag o ddefaid a gwartheg. Gwnaed caws o'u llaeth a chŵyr o'u saim ac arferwyd sychu eu cig er mwyn ei gadw dros y gaeaf. Yn yr 1970au daeth yr afr yn ôl mewn ffasiwn gan dyddynwyr Cymru, oherwydd y diwydiant caws llwyddiannus a'r syniad o fod yn hunangynhaliol.
Yn Eryri a rhai mannau eraill, ceir geifr gwyllt a cheir geifr Cashmir ar Ben y Gogarth (Llandudno) ers y 19g.
Hanes
golyguYsgrifennodd Gerallt Gymro yn 1188 fod mynyddoedd Eryri'n llawn geifr a defaid, a than y 16g y geifr oedd fwyaf cyffredin yno. Gwneid caws o'u llefrith, canhwyllau o'u braster, a sychid eu cig, “coch yr wden”, ar gyfer y gaeaf. Trwy bori'r creigleoedd cadwai'r geifr y gwartheg o leoedd peryglus.
Lleihaodd cadw geifr gyda dirywiad y gyfundrefn hafod a hendre a chau tiroedd comin pan gyflwynwyd diadelloedd enfawr o ddefaid i'r mynydd-dir yn y 18g. Parhaodd rhai ffermydd i gadw niferoedd bychain o eifr gyda'u gwartheg i'r 1950au, am eu caws ac am y credid yr arbedid y gwartheg rhag erthylu.
Yng nghreigleoedd Eryri erys diadelloedd o eifr sy'n ddisgynyddion o'r geifr dof gwreiddiol ond fu'n byw yn wyllt ers amser maith.
O'r geifr Kashmir gyflwynwyd i'r Gogarth yn y 19g y daw masgotiaid y Ffiwsilwyr Gymreig.
Llên gwerin
golygu- Ceir cân werin Gymraeg byrlymus a hwyliog o'r enw "Cyfri'r Geifr" neu "Oes Gafr Eto?".
- Dyma englyn gan Ceiriog i’r afr na ddylid ei adrodd yn uchel os oes gennych chi ddannedd gosod :
- Yr Afr
- Ar grugrgroen yr hagr grogrgraig – a llamsach
- Hyd hell lemserth lethrgraig,
- Ochrau neu grib uchran y graig,
- Grothawg-grib ar greithiog-graig.[1]
Geifr dof, fferal a gwyllt,
golyguCafodd yr afr wyllt Capra hircus ei hyweddu (domesticate) gyntaf mae'n debyg yn Oes y Neolithig yn ardal y Cilgant Ffrwythlon, yr Irac fodern. Fe ddaeth gyda'r bobl hynny, pobl yr Oes Cerrig Newydd, i Ewrop a'r gorllewin fel anifail fferm yn darparu tannwydd (bloneg), croen, llaeth a chynhyrchion y llaethdy, a chig. Fe barhaodd yn y cyflwr yna hyd yn weddol ddiweddar ar ffermydd mynydd tlawd Cymru. Dyma gofnod o ddyddlyfr Owen Edwards 1820 o ardal Penmorfa, Tremadog: "Dydd Mercher: Diwrnod lled oer yn Meirioli ac yn llithrig iawn. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy Newydd i’r Gelli wastad. Owen yn nol y Geifr o Greigiau Tanrallt yn dechreu rhewi cyn nos.” Doedd y tywydd oer ddim yn rhwystro OE rhag anfon Owen arall (mab mae’n debyg, neu was?) i nôl y geifr o greigiau cyfagos. Y diwrnod wedyn, 20 Ionawr cofnododd: “Dydd Iau, 19 Ionawr. Diwrnod teg distaw wedi rhewi’n bur galed ac yn llithrig iawn. Y Meibion un yn golchi’r Buchod rhag llau a’r llall yn cneifio’r Dynewid [heffrod]. Yn gwerthu Bwch gafr a thri o Funod i Sion Morris am Ddeg swllt ar hugain” (sef £1/10/-, 7 swllt+ yr un)". Mae'r pris yn cymharu'n ffafriol â phris maharen neu hwrdd ar y pryd [2].
Mae'n debyg mai dyma'r cyfnod y bu i'r geifr fferm hyn raddol ddianc a throi yn ôl i'r gwyllt, mewn geiriau erall, troi yn "fferal". Eu disgynyddion yw'r 'geifr gwyllt' sydd ar fynyddoedd Eryri heddiw (y Rhinogydd, y Glyderau, y Carneddau a'r Wyddfa). Mae mân yrroedd hefyd ar Yr Eifl, Rhobell Fawr a Chraig yr Aderyn, yn Nyffryn Dysynni. Cafodd llawer hefyd eu difa gan y War Ag yn ystod yr ail ryfel byd [2]