Baʿal
Mae Baʿal neu Baal (Hebraeg: בעל) yn deitl Semitaidd a ddefnyddid ar gyfer nifer o wahanol dduwiau ac ysbrydion. Yr ystyr yw ‘arglwydd’, a gellir ei ddefnyddio am fod dynol hefyd ar brydiau. Ambell dro defnyddir baʿal fel cyfenw ar y duw Hadad, duw'r glaw, taranau, ffrwythlondeb ac amaeth. Dim ond yr offeiriaid oedd yn cael defnyddio yr enw "Hadad", felly defnyddid "Baal" i sôn amdano. Gelwid Melqart, duw dinas Tyrus yn Baʿal hefyd. Fodd bynnag, mae llawer o'r cyfeiriadau at "Baʿal", er enghraifft y cyfeiriadau yn y Beibl, yn cyfeirio at dduwiau lleol.
Enghraifft o'r canlynol | duwdod, cymeriad Beiblaidd, duw taranau, duwdod stormydd |
---|---|
Enw brodorol | בַּעַל |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Prif dduw Carthago oedd Baʿal Hammon. Yn ôl rhai awduron Groegaidd a Rhufeinig, byddai'r Carthaginiaid yn llosgi plant ieuanc fel aberth i Baʿal Hammon, ond mae cryn ddadlau ynglŷn â gwirionedd hyn. Mae'n gysylltiedig â'r dduwies Tanit. Ceir yr enw Baʿal fel elfen mawn llawer o enwau Carthaginaidd, er enghraifft Hannibal a Hasdrubal. Baʿal oedd prif dduw dinas Palmyra hefyd.
Yn y cyfnod cynnar roedd yr Iddewon hefyd yn defnyddio'r gair Baʿal am eu duw, ond oherwydd y frwydr rhwng y ddwy grefydd, a welir er enghraifft yn hanes y proffwyd Elias yn lladd proffwydi Baal yn Llyfr y Brenhinoedd yn y Beibl, daethant i osgoi'r ymadrodd yn nes ymlaen.