Cig wedi'i halltu a ddaw o fochyn yw bacwn. Fe'i halltir gan ddefnyddio halen, naill ai mewn heli neu fel arall, gan wneud bacwn ffres. Gellir yna sychu'r bacwn ffres, ei ferwi, neu ei fygu, ac yna ei goginio cyn bwyta os nad yw wedi'i ferwi.

Stribedi o facwn bol heb eu coginio

Daw bacwn o nifer o wahanol ddarnau o gig. Gelwir bacwn a ddaw o lwyn y mochyn yn facwn cefn. Gelwir bacwn a ddaw o fol y mochyn yn facwn brith neu'n facwn rhesog, a hyn yw'r bacwn mwyaf poblogaidd yn yr Unol Daleithiau. Gelwir bacwn o ystlys mochyn yn hanerob.

Yn draddodiadol gadewir y croen ar y bacwn a'i elwir yn grawen, ond gellir hefyd cael bacwn digrawen.

Gweler hefyd golygu