Mochyn (dof)

anifail a fegir am ei gig
Mochyn
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Suidae
Genws: Sus
Rhywogaeth: S. scrofa
Isrywogaeth: S. s. domestica
Enw trienwol
Sus scrofa domestica
Linnaeus, 1758
Cyfystyron

Sus scrofa domesticus
Sus domesticus
Sus domestica

Am y genws sus, y mochyn gwyllt, a moch yn gyffredinol, gweler Mochyn (genws)
Rhochian y mochyn dof

Mae'r mochyn (enw gwyddonol: Sus domesticus), neu fochyn dof wrth wahaniaethu oddi wrth aelodau eraill o'r genws Sus, yn famal pedeircoes, carnog, hollysol, dof. Mae'r genws yma'n cynnwys yr hwch (benyw), y baedd (gwryw) a'r porchell (mochyn bach). Fe'i hystyrir naill ai'n isrywogaeth o'r baedd Ewrasiaidd (y baedd gwyllt) neu'n rhywogaeth gwbwl wahanol, mae Cymdeithas Mamalegwyr America yn ei dosbarthu fel yr ail opsiwn.[1] Mae wedi ei ddofi ers rhyw 5,000 i 7,000 o flynyddoedd. Megir ef yn Ewrop, yn y Dwyrain Canol ac yn Asia er mwyn ei gig. Mae'n anifail deallus iawn. Mae'n perthyn i'r un teulu â'r baedd gwyllt sydd yn byw mewn cynefin coediog.

Hyd arferol y mochyn, o'i drwyn i'w din, yw rhwng 0.9 ac 1.8 metr (3.0 - 5.9 troedfedd), ac mae mochyn llawndwf fel arfer yn pwyso rhwng 50 a 350 cilogram (110 - 770 pwys), gydag unigolion sy'n cael eu bwydo'n dda hyd yn oed yn drymach na hyn. Mae maint a phwysau mochyn hefyd yn dibynnu ar ei brîd. O'i gymharu ag artiodactylau eraill, mae pen mochyn yn gymharol hir ac yn bigfain. Mae'r rhan fwyaf o garnolion cyfnifer-fyseddog (even-toed) yn llysysol, ond mae moch yn hollysyddion, fel eu perthynas gwyllt.

Dywedir fod mochyn yn rhochian ac yn gwneud synau tebyg i chwyrnu.

Caiff moch dof eu ffermio'n bennaf ar gyfer eu cig, a elwir yn 'gig moch', 'bacwn' neu'n borc. Mae'r gair Cymraeg 'moch' yn dod o'r Gelteg moccws; Hen Wyddeleg: Mucc; Hen Lydaweg: Moch.[2]

Gelwir grŵp o foch yn haid a'r bobl a oedd yn eu cadw ac yn eu gwarchod yn feichiaid.

Defnyddir pob rhan o'r mochyn fel cynnyrch, gan gynnwys yn bennaf: yr esgyrn, y croen, yr ymennydd a blew'r anifail. Mewn gwledydd datblygedig, mae moch, yn enwedig bridiau bach, yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes.

Bioleg golygu

 
Penglog
 
Sgerbwd
 
Esgyrn troed, neu garn

Yn nodweddiadol mae gan y mochyn ben mawr, gyda thrwyn hir sy'n cael ei gryfhau gan asgwrn arbennig a disg o cartilag yn ei du blaen.[3] Mae'r trwyn yn cael ei ddefnyddio i gloddio i'r pridd i ddod o hyd i fwyd ac mae'n organ synnwyr acíwt ac effeithiol iawn. Fformiwla ddeintyddol moch llawndwf yw 3.1.4.33.1.4.3, sy'n rhoi cyfanswm o 44 dant. Mae'r dannedd cefn wedi'u haddasu ar gyfer malu a chnoi, yn hytrach na brathu. Yn y gwryw, gall yr ysgithrddannedd ffurfio ysgithrau (tysgs), sy'n tyfu'n barhaus ac yn cael eu hogi trwy eu rhwbio'n gyson yn erbyn ei gilydd.[3]

Ceir pedwar bys-troed ar bob carn. sydd ar bob troed, gyda'r ddau fysedd traed canolog mwy yn dwyn y rhan fwyaf o'r pwysau, ond mae'r ddau fysedd traed allanol hefyd yn cael eu defnyddio i durio mewn tir meddal.[4]

Mae gan y rhan fwyaf o foch orchudd blew bras, braidd yn denau ar eu croen, er bod bridiau â gorchudd gwlanog fel y Mangalitsa'n bodoli.[5]

Mae gan foch chwarennau chwys apocrine ac eccrine, er bod yr olaf yn ymddangos yn gyfyngedig i'r trwyn.[6] Fodd bynnag, nid yw moch, fel mamaliaid "di-flew" eraill (ee eliffantod, rhinos, a llygod mawr), yn defnyddio chwarennau chwys thermol i oeri.[7] Maent hefyd yn llai abl i gael gwared a gwres o bilenni mwcaidd gwlyb yn y geg trwy ddyhefu (anadlu gyda'r tafod allan, fel ci). Eu tymheredd thermoniwtral yw 16 i 22 gradd C.[8] Ar dymheredd uwch, mae moch yn colli gwres trwy ymdrybaeddu mewn mwd neu ddŵr, trwy oeri anweddol, er yr awgrymwyd y gallai ymdrybaeddu gyflawni swyddogaethau eraill, megis amddiffyn rhag llosg haul, rheoli arfilod (paraseits), a marcio gydag arogl.[9]

Mae moch yn un o bedair rhywogaeth o famalaidd sy'n meddu ar mwtaniadau yn y derbynnydd nicotinig acetylcholine sy'n amddiffyn rhag gwenwyn neidr. Mae gan fon-gŵs, moch daear mêl, draenogod a moch i gyd addasiadau sy'n atal y gwenwyn neidr α-niwrotocsin rhag rhwymo a chael effaith. Mae'r pedair rhywogaeth yn cynrychioli pedwar mwtadiad gwbwl ar wahân i'w gilydd.[10]

Mae gan foch ysgyfaint bach o'i gymharu â maint eu corff, ac felly maent yn fwy agored nag anifeiliaid dof eraill i lid y fronci a niwmonia angheuol.[11]

Geneteg a genomeg golygu

Mae genom y mochyn wedi'i ddilyniannu ac mae'n cynnwys tua 22,342 o enynnau codio protein. [12] [13] [14]

Tacsonomeg golygu

Fel a nodwyd, ystyrir y mochyn, gan amlaf, yn isrywogaeth o'r baedd gwyllt, a gafodd yr enw Sus scrofa gan Carl Linnaeus yn 1758; yn dilyn o hyn, enw ffurfiol y mochyn dof yw Sus scrofa domesticus.[15][16] Fodd bynnag, ym 1777, dosbarthodd Johann Christian Polycarp Erxleben y mochyn fel rhywogaeth ar wahân i'r baedd gwyllt. Rhoddodd yr enw Sus domesticus, sy'n dal i gael ei ddefnyddio gan rai tacsonomegwyr.[17]

Hanes golygu

 
Crochenwaith o fochyn yn Amgueddfa Sanxingdui, teyrnas Shang (1600 hyd 1046 CC)
 
Mochyn efydd o'r Brenhinllyn Zhou

]]

Mae tystiolaeth archeolegol yn awgrymu y dofwyd moch o faedd gwyllt yn y Dwyrain Agos ym Masn Tigris,[18]  Çayönü, Cafer Höyük a Nevalı Çori[19] a'u bod yn cael eu rheoli mewn coedwigoedd mewn ffordd eitha tebyg i'r dull y maent yn cael eu rheoli yn Gini Newydd heddiw.[20]

Mae olion moch wedi'u dyddio yn gynharach nag 11,400 o flynyddoedd yn ôl yng Nghyprus. Awgrymir iddynt gael eu dofi ar y tir mawr cyfagos cyn hynny.[21] Dofwyd moch ar wahân i hyn, yn Tsieina, tuag 8,000 o flynyddoedd yn ôl.[22]

Yn y Dwyrain Agos, lledaenodd ffermio moch am yr ychydig filoedd o flynyddoedd nesaf. Lleihaodd yn raddol yn ystod yr Oes Efydd, wrth i boblogaethau gwledig ganolbwyntio yn lle hynny ar dda byw. Daliwyd ati i fridio a chadw moch mewn rhanbarthau trefol, fodd bynnag.[23]

Mae tystiolaeth DNA o weddillion isffosil dannedd ac esgyrn gên moch Neolithig yn dangos bod y moch dof cyntaf yn Ewrop wedi dod o'r Dwyrain Agos. Dofwyd y baedd gwyllt Ewropeaidd lleol, gan arwain at drydydd digwyddiad dofi gyda genynnau'r Dwyrain Agos yn dod i ben o fewn y stoc moch Ewropeaidd. Mae moch dof modern yn fap o gyfnewidiadau cymhleth dros y milenia, gyda bridiau dof Ewropeaidd yn cael eu hallforio, yn eu tro, yn ôl i'r Dwyrain Agos hynafol![24][25] Mae cofnodion hanesyddol modern yn nodi bod moch Asiaidd wedi'u cyflwyno i Ewrop yn ystod y 18ed a dechrau'r 19g.[22]

Yn Awst 2015, cyhoeddwyd ymchwil i dros 100 o ddilyniannau o genom moch i ganfod hanes eu dofi. Canfu'r astudiaeth na chefnogwyd y rhagdybiaeth o ynysu atgenhedlol. Yn hytrach, nododd yr astudiaeth fod moch yn cael eu dofi ar wahân yng Ngorllewin Asia a Tsieina, gyda moch Gorllewin Asiaidd yn cael eu cyflwyno i Ewrop, cawsant eu croesi gyda baeddod gwyllt. Roedd y model a oedd yn cyd-fynd â'r data'n cynnwys cymysgedd o foch gwyllt sydd bellach wedi diflannu yn ystod y Pleistosen. Canfu'r astudiaeth hefyd, er gwaethaf croesi-ar-yn-ôl gyda moch gwyllt, bod gan genomau moch dof lofnodion dethol cryf mewn loci DNA sy'n effeithio ar ymddygiad a morffoleg. Daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod dethol er mwyn eu dofi yn debygol o wrthweithio effaith homogenaidd llif genynnau o faeddod gwyllt. Gall yr un broses hefyd fod yn berthnasol i anifeiliaid dof eraill.[26][27]

Yn 2019, dangosodd astudiaeth fod y mochyn wedi cyrraedd Ewrop o'r Dwyrain Agos 8,500 o flynyddoedd yn ôl. Dros y 3,000 o flynyddoedd nesaf buont wedyn yn cymysgu â'r baedd gwyllt Ewropeaidd nes bod eu genom yn dangos llai na 5% o dras y Dwyrain Agos, ond eto wedi cadw eu nodweddion dof.[28]

 
Moch ar fferm fodern

Ymhlith yr anifeiliaid a gyflwynodd y Sbaenwyr i Archipelago Chiloé, De America yn yr 16g, moch oedd y rhai mwyaf llwyddiannus gan addasu'n dda i'w cynefinoedd newydd.[29] Achosodd y moch dof a oedd wedi dianc i'r gwyllt lawer o aflonyddwch i'r Americanwyr Brodorol.[30] Ers hynny mae poblogaethau moch gwyllt yn ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau wedi mudo i'r gogledd ac maent yn bryder cynyddol yn y Canolbarth. Cant eu hystyried yn rhywogaeth ymledol (invasive species), ac mae gan lawer o asiantaethau'r wladwriaeth raglenni i'w difa.[31][32][33] Mae moch domestig wedi dianc i'r gwyllt yn broblem mewn llawer o rannau eraill o'r byd (ee Seland Newydd a gogledd Queensland) ac maen nhw wedi achosi difrod amgylcheddol sylweddol.[34][35] Mae'r croes rhwng y baedd gwyllt Ewropeaidd a'r mochyn dof hefyd yn aflonyddu ar yr amgylchedd ac ar amaethyddiaeth (mae ymhlith y 100 o rywogaethau anifeiliaid mwyaf niweidiol),[36] yn enwedig yn ne-ddwyrain De America o Wrwgwái i Mato Grosso do Sul ac i Frasil a São Paulo.[37][38][39][40]

Gyda tua 1 biliwn o unigolion yn fyw ar unrhyw adeg, mae'r mochyn dof yn un o'r mamaliaid mawr mwyaf niferus ar y blaned.[41]

Atgenhedlu golygu

Mae hychod (y moch benywaidd) yn cyrraedd aeddfedrwydd rhyw yn 3-12 mis oed ac yn lodig (gofyn baedd) bob 18-24 diwrnod os nad ydynt yn ffrythloni. Gellir priodoli'r amrywiad yma o 6 diwrnod i ffactorau cynhenid fel oedran a genoteip, yn ogystal â ffactorau fel maeth, yr amgylchedd, ac ychwanegiad hormonau gan y meichiad neu'r milfeddyg.[42] Mae'r cyfnod beichiogrwydd ychydig yn llai na 4 mis (112-120 diwrnod) ar gyfartaledd.[43]

 
Perchyll (moch bach) yn cadw'n gynnes gyda'i gilydd

Mae hwch yn lodig (gofyn baedd) am ddau neu dri diwrnod, ac gellir synhwyro ei bod yn lodig oherwydd ei bod a arni gwres. Mae gwres sefydlog yn ymateb atgyrchol sy'n cael ei ysgogi pan fydd y fenyw mewn cysylltiad â phoer baedd aeddfed. Androstenol yw un o'r fferomonau a gynhyrchir o fewn chwarennau poer o baedd, ac sy'n sbarduno ymateb yn y fenyw.[44] Mae ceg y groth fenywaidd yn cynnwys cyfres o bum pad neu blygiad a fydd yn dal pidyn siâp corcsgriw y baedd yn ystod y weithred o atgenhedlu.[45][46]

Rhwng 11 a 12 diwrnod yn ddiweddarach, ceir prawf o feichiogrwydd, sef corff yr hwch yn cynhyrchu progesteron yn y corffyn melyn (neu'r corpus luteum) gweithredol (CL).[47][48][49] Yn ystod beichiogrwydd canol a hwyr, mae'r CL yn dibynnu'n bennaf ar hormon o'r enw luteinizing (LH) ar gyfer cynnal a chadw hyd at esgor.[48] Mae maeth addas yn bwysig cyn atgenhedlu ac yn ystod beichiogrwydd er mwyn sicrhau'r perfformiad atgenhedlu gorau posibl.[50]

Mae tystiolaeth archeolegol yn dangos bod moch Ewropeaidd canoloesol yn porchella, (hy yn cario torllwyth o berchyll), unwaith y flwyddyn.[51] Erbyn y 19g, roedd perchyll Ewropeaidd yn arfer dyblu, neu'n cario dau dorllwyth o berchyll y flwyddyn. Nid yw'n glir pryd y digwyddodd y newid hwn.[52]

Ymddygiad golygu

 
Moch mewn walch

Mewn sawl ffordd, mae ymddygiad moch yn ymddangos yn y canol rhwng artiodactylau eraill a chigysyddion.[53] Mae moch yn chwilio am gwmni moch eraill mewn un haid, er nad ydynt yn ffurfio heidiau mawr yn naturiol. Maent fel arfer yn byw mewn grwpiau o tua 8-10 hwch llawndwf, rhai unigolion ifanc, a rhai gwrywod sengl.[54]

Oherwydd eu diffyg chwys, mae moch yn aml yn rheoli tymheredd eu corff drwy ymdrybaeddu mewn mwd, sy'n aml yn cynnwys gorchuddio'r corff â mwd, ymddygiad cyffredin mewn moch.[55] Nid ydynt yn trochi'n gyfan gwbl o dan y llaid, ond maent yn amrywio'r dyfnder.[55] Gwnant hyn unwaith y bydd y tymheredd amgylchynol tua 17-19 gradd Canradd (celsiws).[55] Gall moch ddefnyddio mwd fel eli haul, neu fel dull o gadw parasitiaid draw.[55] Bydd llawer o foch blew bras yn bwrw'r rhan fwyaf o'r anystwyth anystwyth, unwaith y flwyddyn, fel arfer yn y gwanwyn neu ddechrau'r haf, i baratoi ar gyfer y misoedd cynhesach sydd i ddod.[56]

Os bydd yr amodau'n caniatáu, bydd moch yn bwydo'n barhaus am oriau lawer ac yna'n cysgu am oriau lawer, yn wahanol i anifeiliaid cnoi cil sy'n tueddu i fwydo am gyfnod byr ac yna cysgu am gyfnod byr. Mae moch yn hollysol, ac yn amlbwrpas iawn yn eu hymddygiad bwydo. Gan eu bod yn anifeiliaid sy'n chwilota am fwyd, maent yn bennaf yn bwyta dail, coesynnau, gwreiddiau, ffrwythau a blodau.[57]

Credir fod moch yn anifeiliaid hynod o ddeallus,[58] ar yr un lefel â chŵn,[59] ac yn ôl ysgrifen David DiSalvo yn Forbes, fe'u hystyrir yn eang fel yr anifail dof craffaf yn y byd. Gall moch symud cyrchwr ar sgrin fideo gyda'u trwynau a deall beth sy'n digwydd ar y sgrin, a hyd yn oed ddysgu gwahaniaethu rhwng y sgriblau roedden nhw'n eu hadnabod o'r rhai a welsant am y tro cyntaf."[60][61]

 
Dau fochyn bach yn sugno

Synhwyrau golygu

Mae gan foch olwg panoramig o tua 310° a golwg sbienddrych o 35° i 50°. Credir nad oes ganddyn nhw'r cyhyrau yn eu llyygais i newid y golwg o bell i agos, nec o agos i bell,[62] sy'n eu rhoi yn yr un cae a defaid.[63] Mae'r graddau y mae gan foch y gallu i weld lliw yn dal i fod yn dipyn o ddadl; fodd bynnag, mae presenoldeb celloedd côn yn y retina gyda dau sensitifrwydd tonfedd gwahanol (glas a gwyrdd) yn awgrymu bod o leiaf rhywfaint o olwg lliw yn bresennol.[64]

Mae gan foch synnwyr arogli soffistigedig iawn, a gwneir y defnydd o hwn mewn rhai gwledydd Ewropeaidd lle cânt eu hyfforddi i leoli tryfflau sy'n tyfu o ychydig o dan y ddaear. Maent hefyd yn defnyddio arogl i ganfod moch eraill, yn hytrach na'r golwg.[65] Mae'r clyw hefyd wedi'i ddatblygu'n dda, a gwneir lleoleiddio synau trwy symud y pen. Mae moch yn defnyddio symbyliadau clywedol yn helaeth fel cyfrwng cyfathrebu ym mhob gweithgaredd cymdeithasol.[66] Gallant drosglwyddo eu hofn i foch eraill nid yn unig trwy giwiau clywedol ond hefyd gan fferomonau.[67] Yn yr un modd, adnabyddir yr hwch a'i moch bach trwy giwiau arogleuol a lleisiol.[68]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Explore the Database". www.mammaldiversity.org. Cyrchwyd 21 August 2021.
  2. [https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html geiriadur.ac.uk; Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (GPC; Gol. Andrew Hawke)
  3. 3.0 3.1 "Sus scrofa (wild boar)". Animal Diversity Web.
  4. Lockhart, Kim. "American Wild Game / Feral Pigs / Hogs / Pigs / Wild Boar". gunnersden.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 August 2018. Cyrchwyd 15 August 2012.
  5. "Royal visit delights at the Three Counties Show". Malvern Gazette.
  6. Sumena, K.B.; Lucy, K.M.; Chungath, J.J.; Ashok, N.; Harshan, K.R. (2010). "Regional histology of the subcutaneous tissue and the sweat glands of large white Yorkshire pigs". Tamilnadu Journal of Veterinary and Animal Sciences 6 (3): 128–135. http://www.tanuvas.tn.nic.in/tnjvas/vol6(3)/128-135.pdf.[dolen marw]
  7. Folk, G.E.; Semken, H.A. (1991). "The evolution of sweat glands". International Journal of Biometeorology 35 (3): 180–186. Bibcode 1991IJBm...35..180F. doi:10.1007/bf01049065. PMID 1778649.
  8. "Sweat like a pig?". Australian Broadcasting Corporation. 22 April 2008.
  9. Bracke, M.B.M. (2011). "Review of wallowing in pigs: Description of the behaviour and its motivational basis". Applied Animal Behaviour Science 132 (1): 1–13. doi:10.1016/j.applanim.2011.01.002.
  10. Drabeck, D.H.; Dean, A.M.; Jansa, S.A. (1 June 2015). "Why the honey badger don't care: Convergent evolution of venom-targeted nicotinic acetylcholine receptors in mammals that survive venomous snake bites". Toxicon 99: 68–72. doi:10.1016/j.toxicon.2015.03.007. PMID 25796346.
  11. "Pros and Cons of Potbellied Pigs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 March 2014. Cyrchwyd 25 November 2017.
  12. Li, Mingzhou; Chen, Lei; Tian, Shilin; Lin, Yu; Tang, Qianzi; Zhou, Xuming; Li, Diyan; Yeung, Carol K. L. et al. (2017-05-01). "Comprehensive variation discovery and recovery of missing sequence in the pig genome using multiple de novo assemblies" (yn en). Genome Research 27 (5): 865–874. doi:10.1101/gr.207456.116. ISSN 1088-9051. PMC 5411780. PMID 27646534. https://genome.cshlp.org/content/27/5/865.
  13. "Validate User". academic.oup.com. doi:10.1093/gigascience/giaa051. PMC 7448572. PMID 32543654. Cyrchwyd 2022-01-31.
  14. Karlsson, Max; Sjöstedt, Evelina; Oksvold, Per; Sivertsson, Åsa; Huang, Jinrong; Álvez, María Bueno; Arif, Muhammad; Li, Xiangyu et al. (2022-01-25). "Genome-wide annotation of protein-coding genes in pig". BMC Biology 20 (1): 25. doi:10.1186/s12915-022-01229-y. ISSN 1741-7007. https://doi.org/10.1186/s12915-022-01229-y.
  15. "Taxonomy Browser". ncbi.nlm.nih.gov.
  16. Gentry, Anthea; Clutton-Brock, Juliet; Colin P. Groves (2004). "The naming of wild animal species and their domestic derivatives". Journal of Archaeological Science 31 (5): 645–651. doi:10.1016/j.jas.2003.10.006. http://arts.anu.edu.au/grovco/J%20Arch%20Sci.pdf.
  17. Gentry, Anthea; Clutton-Brock, Juliet; Groves, Colin P. (1996). "Proposed conservation of usage of 15 mammal specific names based on wild species which are antedated by or contemporary with those based on domestic animals". Bulletin of Zoological Nomenclature 53: 28–37. doi:10.5962/bhl.part.14102.
  18. Nelson, Sarah M. (1998). Ancestors for the Pigs. Pigs in prehistory. University of Pennsylvania Museum of Archaeology and Anthropolog. ISBN 9781931707091.
  19. Ottoni, C; Flink, LG; Evin, A; Geörg, C; De Cupere, B; Van Neer, W; Bartosiewicz, L; Linderholm, A et al. (2013). "Pig Domestication and Human-Mediated Dispersal in Western Eurasia Revealed through Ancient DNA and Geometric Morphometrics". Mol Biol Evol 30 (4): 824–32. doi:10.1093/molbev/mss261. PMC 3603306. PMID 23180578. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3603306. "our data suggest a narrative that begins with the domestication of pigs in Southwest Asia, at Upper Tigris sites including Çayönü Tepesi (Ervynck et al. 2001) and possibly Upper Euphrates sites including Cafer Höyük (Helmer 2008) and Nevali Çori (Peters et al. 2005)"
  20. Rosenberg, M; Nesbitt, R; Redding, RW; Peasnall, BL (1998). "Hallan Çemi, pig husbandry, and post-Pleistocene adaptations along the Taurus-Zagros Arc (Turkey)". Paleorient 24 (1): 25–41. doi:10.3406/paleo.1998.4667. http://www.persee.fr/web/revues/home/prescript/article/paleo_0153-9345_1998_num_24_1_4667.
  21. Vigne, JD; Zazzo, A; Saliège, JF; Poplin, F; Guilaine, J; Simmons, A (2009). "Pre-Neolithic wild boar management and introduction to Cyprus more than 11,400 years ago". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 106 (38): 16135–8. Bibcode 2009PNAS..10616135V. doi:10.1073/pnas.0905015106. PMC 2752532. PMID 19706455. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2752532.
  22. 22.0 22.1 Giuffra, E; Kijas, JM; Amarger, V; Carlborg, O; Jeon, JT; Andersson, L (2000). "The origin of the domestic pig: independent domestication and subsequent introgression". Genetics 154 (4): 1785–91. doi:10.1093/genetics/154.4.1785. PMC 1461048. PMID 10747069. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1461048.
  23. Price, Max (March 2020). "The Genesis of the Near Eastern Pig". American Society of Overseas Research (ASOR) (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-10. Cyrchwyd 8 August 2021.
  24. BBC News, "Pig DNA reveals farming history" 4 September 2007.
  25. Larson, G; Albarella, U; Dobney, K; Rowley-Conwy, P; Schibler, J; Tresset, A; Vigne, JD; Edwards, CJ et al. (2007). "Ancient DNA, pig domestication, and the spread of the Neolithic into Europe". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 104 (39): 15276–81. Bibcode 2007PNAS..10415276L. doi:10.1073/pnas.0703411104. PMC 1976408. PMID 17855556. https://pure.uva.nl/ws/files/4125719/55285_284894.pdf.
  26. Frantz, L (2015). "Evidence of long-term gene flow and selection during domestication from analyses of Eurasian wild and domestic pig genomes". Nat. Genet. 47 (10): 1141–8. doi:10.1038/ng.3394. PMID 26323058.
  27. Pennisi, E (2015). "The taming of the pig took some wild turns". Science. doi:10.1126/science.aad1692.
  28. Frantz, Laurent A. F.; Haile, James; Lin, Audrey T.; Scheu, Amelie; Geörg, Christina; Benecke, Norbert; Alexander, Michelle; Linderholm, Anna et al. (2019). "Ancient pigs reveal a near-complete genomic turnover following their introduction to Europe". Proceedings of the National Academy of Sciences 116 (35): 17231–17238. doi:10.1073/pnas.1901169116. PMC 6717267. PMID 31405970. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6717267.
  29. Torrejón, Fernando; Cisternas, Marco; Araneda, Alberto (2004). "Efectos ambientales de la colonización española desde el río Maullín al archipiélago de Chiloé, sur de Chile" (yn es). Revista Chilena de Historia Natural 77 (4): 661–677. doi:10.4067/s0716-078x2004000400009.
  30. II.
  31. "Feral Hogs in Missouri | Missouri Department of Conservation". mdc.mo.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-08. Cyrchwyd 7 March 2017.
  32. "AGFC | Feral Hog Hunting Regulations". agfc.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 February 2017. Cyrchwyd 7 March 2017.
  33. "Feral Hog Management | Georgia DNR – Wildlife Resources Division". georgiawildlife.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 March 2017. Cyrchwyd 8 March 2017.
  34. Yoon, Carol Kaesuk (2 December 1992). "Alien Species Threaten Hawaii's Environment". The New York Times.
  35. "Introduced Birds and Mammals in New Zealand and Their Effect on the Environment – NZETC". nzetc.org.
  36. "World's 100 most destructive species named". The Independent (yn Saesneg). 21 November 2004. Cyrchwyd 7 March 2017.
  37. Marília, Do G1 Bauru e (12 April 2013). "Autorização para abate do javaporco tranquiliza produtores em Assis, SP". Bauru e Marília.
  38. "IBAMA authorizes capture and slaughter of 'javaporcos' – Folha do Sul Gaúcho". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 July 2017.
  39. "Javaporco dá prejuízo e amedronta produtores rurais de Maracaí, SP". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-23. Cyrchwyd 2022-02-10.
  40. "Status and Distribution of wild boar in Rio Grande do Sul, Southern Brazil". 2009.
  41. "PSD Online". fas.usda.gov.
  42. Hughes, Paul (1980). Reproduction in the Pig. Massachusetts: The Butterworth Group. ISBN 0408709464.
  43. "Feral Hog Reproductive Biology". 16 May 2012.
  44. "G2312 Artificial Insemination in Swine: Breeding the Female | University of Missouri Extension". extension.missouri.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-08. Cyrchwyd 7 March 2017.
  45. "The Female – Swine Reproduction". livestocktrail.illinois.edu (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-10. Cyrchwyd 7 March 2017.
  46. Bazer, F. W.; Vallet, J. L.; Roberts, R. M.; Sharp, D. D.; Thatcher, W. W. (1986). "Role of conceptus secretory products in establishment of pregnancy". J. Reprod. Fertil. 76 (2): 841–850. doi:10.1530/jrf.0.0760841. PMID 3517318.
  47. Bazer, Fuller W.; Song, Gwonhwa; Kim, Jinyoung; Dunlap, Kathrin A.; Satterfield, Michael Carey; Johnson, Gregory A.; Burghardt, Robert C.; Wu, Guoyao (1 January 2012). "Uterine biology in pigs and sheep". Journal of Animal Science and Biotechnology 3 (1): 23. doi:10.1186/2049-1891-3-23. ISSN 2049-1891. PMC 3436697. PMID 22958877. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3436697.
  48. 48.0 48.1 Ziecik, A. J. (2018). "Regulation of the porcine corpus luteum during pregnancy". Reproduction 156 (3): R57–R67. doi:10.1530/rep-17-0662. PMID 29794023.
  49. Waclawik, A. (2017). "Embryo‐maternal dialogue during pregnancy establishment and implantation in the pig". Molecular Reproduction and Development 84 (9): 842–855. doi:10.1002/mrd.22835. PMID 28628266.
  50. Farmer, Chantal (2015). The gestating and lactating sow. The Netherlands: Wageningen Academic Publishers. ISBN 9789086868032. OCLC 899008362.
  51. Ervynck, A., & Dobney, K. (2002).
  52. Bintliff, J.; Earle, T.; Peebles, C. (2008). A Companion to Archaeology. Wiley. t. 305. ISBN 978-0-470-99860-1.
  53. Clutton-Brock, J., (1987).
  54. Algers, Bo; Uvnäs-Moberg, Kerstin (1 June 2007). "Maternal behavior in pigs". Hormones and Behavior. Reproductive Behavior in Farm and Laboratory Animals11th Annual Meeting of the Society for Behavioral Neuroendocrinology 52 (1): 78–85. doi:10.1016/j.yhbeh.2007.03.022. PMID 17482189.
  55. 55.0 55.1 55.2 55.3 Bracke, M.B.M (2011). "Review of wallowing in pigs: description of the behaviour and its motivational basis". Applied Animal Behaviour Science 132 (1–2): 1–13. doi:10.1016/j.applanim.2011.01.002.
  56. "Blowing Coat – Mini Pig Shedding FAQ". americanminipigassociation.com. 2 April 2016.
  57. Kongsted, A. G.; Horsted, K.; Hermansen, J. E. (2013). "Free-range pigs foraging on Jerusalem artichokes ( Helianthus tuberosus L.) – Effect of feeding strategy on growth, feed conversion and animal behaviour". Acta Agriculturae Scandinavica, Section A 63 (2): 76–83. doi:10.1080/09064702.2013.787116.
  58. "10 of the smartest animals on Earth". MNN – Mother Nature Network (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 March 2017.
  59. "Signs of Intelligent Life | Natural History Magazine". naturalhistorymag.com. Cyrchwyd 3 June 2019.
  60. David Disalvo 2014/11/26 how-smart-was-that-turkey-and-ham-before-it-became-dinner at forbes.com Accessed 27 January 2017
  61. Angier, Natalie (9 November 2009). "Pigs Prove to Be Smart, if Not Vain". The New York Times. New York City. Cyrchwyd 28 July 2010.
  62. "Animalbehaviour.net (Pigs)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 March 2012. Cyrchwyd 9 December 2012.
  63. "Animalbehaviour.net (Sheep)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 December 2012. Cyrchwyd 9 December 2012.
  64. Lomas, C.A.; Piggins, D.; Phillips, C.J.C. (1998). "Visual awareness". Applied Animal Behaviour Science 57 (3–4): 247–257. doi:10.1016/s0168-1591(98)00100-2.
  65. Houpt, K.A., (1998).
  66. Gonyou, H.W., (2001).
  67. Vieuille-Thomas, C.; Signoret, J.P. (1992). "Pheromonal transmission of an aversive experience in domestic pigs". Journal of Chemical Ecology 18 (9): 1551–1557. doi:10.1007/bf00993228. PMID 24254286. https://archive.org/details/sim_journal-of-chemical-ecology_1992-09_18_9/page/1551.
  68. Jensen, P.; Redbo, I. (1987). "Behaviour during nest leaving in free-ranging domestic pigs". Applied Animal Behaviour Science 18 (3–4): 355–362. doi:10.1016/0168-1591(87)90229-2.