Geneufor Benin
Geneufor neu fae yng ngogledd Gwlff Gini, yng Nghefnfor yr Iwerydd, yw Geneufor Benin sy'n ymestyn ar hyd arfordiroedd de-ddwyrain Ghana, Togo, Benin, a de-orllewin Nigeria yng Ngorllewin Affrica. Mae ganddo hyd o ryw 400 o filltiroedd, o Benrhyn St. Paul, Ghana, yn y gorllewin i aber Nun, Nigeria, yn y dwyrain. Mae nifer o afonydd yn llifo i Eneufor Benin, gan gynnwys Sio, Haho, Mono, Couffo, Ouémé, Benin, Forcados, a rhan o aberoedd Niger. Mae prif borthladdoedd y geneufor yn cynnwys Lomé, prifddinas a dinas fwyaf Togo; Cotonou, dinas fwyaf Benin; a Lagos, dinas fwyaf Nigeria ac un o ardaloedd trefol mwyaf Affrica.
Map o Gwlff Gini, gan ddangos Geneufor Benin yng ngogledd y gwlff ar hyd arfordiroedd Ghana, Togo, Benin, a Nigeria. | |
Math | bae |
---|---|
Enwyd ar ôl | Benin Empire |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gwlff Gini |
Sir | Benin |
Gwlad | Nigeria, Benin, Togo, Ghana |
Uwch y môr | 0 metr |
Cyfesurynnau | 5.5°N 4°E |
Tarddiad | Niger |
Geneufor Benin oedd canolfan masnach gaethweision yr Iwerydd yng Ngorllewin Affrica o'r 16g i'r 19g, ac hen enw'r ardal oedd Glannau'r Caethion, rhwng y Traeth Aur i'r gorllewin a Geneufor Biaffra (aberoedd Afon Niger) i'r dwyrain. Ers dechrau'r 19g, olew palmwydd ydy'r prif ddiwydiant. Yn niwedd y 1950au, darganfuwyd petroliwm yn Nelta Niger ac mae'r diwydiant olew yn bwysig yn nwyrain Geneufor Benin. Prif allforion eraill yr ardal yw hadau'r palmwydd olew, coco, coffi, pren caled, a rwber.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Bight of Benin. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Mai 2024.