Bae Copr

Cynllun adfywio dinesig yn y 2020au rhwng canol dinas Abertawe a'i harfordir ger hen safle Doc Fictoria

Mae Bae Copr (Saesneg: Copr Bay) neu Bae Copr Abertawe, yn brosiect adnewyddu trefol anferthol ar gyfer canol dinas Abertawe ac ardal Doc Fictoria. Ariennir a datblygir Cam Un Bae Copr gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe, gydag elfen arena’r cynllun yn cael ei hariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe’n gronfa fuddsoddi gwerth £1.3 biliwn sy’n cynnwys arian gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r sector preifat er mwyn cwblhau prosiectau trawsnewid mawr yn yr ardal hon o dde Cymru.[1]

Bae Copr
Enghraifft o'r canlynolcynllunio trefol, adnewyddu trefol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2020s Edit this on Wikidata
LleoliadAbertawe Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
 
Dinas Abertawe yn 2012 cyn i'r gwaith ar Bae Copr ddechrau yn lle mae'r arfordir ger y tŵr uchel yng nghanol y llun
 
Amgueddfa Abertawe ger llaw ardal y "Bae Copr" a lle cafwyd arddangosfa ar thema Copperopolis

Mae'r enw, "Bae Copr" yn gyfeiriad ar dreftadaeth Abertawe fel man cynhyrchu ac allforio copr ers canrifoedd. Gelwid y ddinas yn "Copperopolis" gan rai haneswyr a ceid arddangosfa o dan yr enw hwnnw yn Amgueddfa Abertawe yn Abertawe. Sefydlwyd y gwaith copr cyntaf yn Abertawe yng Nglandŵr ym 1720 gan Dr Lane a Mr Pollard, a oedd wedi bod yn berchen ar fwyngloddiau copr yng Nghernyw.[2]

Nodweddion

golygu

Mae'r cynllun uchelgeisiol yn plethu sawl nodwedd ar gyfer adfywio dinesig y rhan yma o ddinas Abertawe. Yn eu plith mae:[1]

  • Diwylliant - Arena Abertawe newydd â lle i 3,500 o bobl i'w gweithredu ar sail tymor hir gan yr arweinwyr theatr byd-eang, Ambassador Theatre Group (ATG).
  • Adeiladwaith eiconig - Pontio'r Bwlch, pont o gopr dros Oystermouth Road i uno canol y ddinas gyda'r morlin.
  • Twristiaeth - gwesty newydd ar gyfer ymwelwyr.
  • Parc Arfordirol - Parc 1.1 erw wedi'i dirlunio, gyda mannau awyr agored i bob oedran ymweld.
  • Anheddau - i gynnwys tai a rhandai. Erbyn Awst 2022 roedd tŵr o 33 rhandy wedi eu rhedeg gan Pobl Group wedi eu hadeiladu yn cynnwys 13 o fflatiau un ystafell wely i hyd at ddau berson ac 20 o fflatiau dwy ystafell wely i hyd at dri pherson..[3]

Ardrawiad economaidd lleol

golygu

Yn ôl ffigurau sicrhawyd hyd at haf 2022, dangoswyd bod dros 8,000 o wythnosau o gyflogaeth, prentisiaethau a lleoliadau i hyfforddeion yn ystod gwaith adeiladu cyrchfan newydd Bae Copr Abertawe sy'n werth £135m.

Dangosodd y ffigurau y sicrhawyd canlyniadau dros 8,000 o nifer o gyfraddau, prentisiaethau a lleoliadau i'r graddau yn y gwaith adeiladu newydd Bae Copr Abertawe sy'n werth £135m.

Mae ffigurau newydd hefyd yn dangos gwariant cadwyn gyflenwi o 41.5% ar gyfer y prosiect yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe, a bod 64% o’r gwariant wedi aros yng Nghymru.[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Hafan". Gwefan Bae Copr Abertawe. Cyrchwyd 4 Mawrth 2024.
  2. "Copperopolis The Beginning of the Copper Industry". Gwefan Amgueddfa Abertawe. Cyrchwyd 4 Mawrth 2024.
  3. "PRESWYLWYR YN SYMUD I MEWN I FFLATIAU NEWYDD BAE COPR". Gwefan Bae Copr Abertawe. 22 Awst 2022.
  4. "BAE COPR YN RHOI HWB I SWYDDI A'R ECONOMI". Gwefan Bae Copr Abertawe. 14 Mehefin 2022.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas a Sir Abertawe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato