Glandŵr

Ardal a chymuned yn ninas Abertawe yw Glandŵr (Saesneg: Landore). Saif tua 1.5 milltir i'r gogledd o ganol y ddinas. Yma y sefydlwyd y gwaith copr cyntaf yn ardal Abertawe yn 1717. Erbyn 1873 roedd gwaith dur mwyaf y byd yma, ymhlith llawer o weithgarwch diwydiannol arall.

Glandŵr
Mathmaestref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.64°N 3.94°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000966 Edit this on Wikidata
Cod OSSS656957 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMike Hedges (Llafur)
AS/auCarolyn Harris (Llafur)

Yn y blynyddoedd diwethaf, bu llawer o adeiladu newydd yma, yn arbennig Stadiwm Liberty, a agorwyd yn 2005 ac sy'n cael ei rannu rhwng Clwb Peldroed Dinas Abertawe a thîm rygbi y Gweilch. Adeiladwyd Parc Siopa'r Morfa yr un pryd, ac yn 2008 agorwyd stadiwm bowls newydd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Mike Hedges (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Carolyn Harris (Llafur).[1][2]

  • Cyfeirir at Landŵr yng ngherdd Bryan Martin Davies "Glas" pan sonia am

    ... y craeniau tal
    a grafai’r wybren glir
    uwchben Glandŵr.

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014