Baldwin, Archesgob Caergaint

Prelad o Sais o dras Normanaidd oedd Baldwin, Archesgob Caergaint (c. 1125 – 19 Tachwedd 1190). Fe'i ganwyd yng Nghaerwysg, Dyfnaint, i deulu mewn amgylchiadau digon cyfyng. Cafodd ei benodi yn esgob Caerwrangon yn 1180 ac yna'n archesgob Caergaint yn 1184. Coronodd y brenin Rhisiart I o Loegr.

Baldwin, Archesgob Caergaint
Ganwydc. 1125 Edit this on Wikidata
Caerwysg Edit this on Wikidata
Bu farw19 Tachwedd 1190 Edit this on Wikidata
Teyrnas Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddabad, Roman Catholic Archbishop of Canterbury, esgob esgobaethol Edit this on Wikidata

Mae Baldwin yn fwyaf adnabyddus yng Nghymru am iddo deithio yng nghwmni Gerallt Gymro ar ei daith trwy Gymru yng ngwanwyn a haf y flwyddyn 1188. Pwrpas swyddogol y daith enwog honno oedd i berswadio'r Cymry a'u cymdogion Normanaidd i fynd ar groesgad i'r Tir Sanctaidd, ond digon tila fu'r ymateb gan y Cymry a Normaniaid hirben. Cafodd Baldwin ei hun ei ladd ym Mhalesteina yn 1190, wedi mynd allan i gefnogi'r Croesgadwyr.