Rhisiart I, brenin Lloegr
teyrn (1157-1199)
(Ailgyfeiriad o Rhisiart I o Loegr)
Bu Rhisiart I (8 Medi 1157 – 6 Ebrill 1199) yn frenin Lloegr o 6 Gorffennaf 1189 hyd at 6 Ebrill 1199.[1]
Rhisiart I, brenin Lloegr | |
---|---|
Beddrod Rhisiart I yn Abaty Fontevraud, Anjou | |
Ganwyd | 8 Medi 1157 Rhydychen |
Bu farw | 6 Ebrill 1199 Châlus |
Swydd | teyrn Lloegr, dug Normandi, dug Aquitaine, Duke of Gascony, brenin, cownt Angyw, count of Maine, count of Poitiers |
Tad | Harri II, brenin Lloegr |
Mam | Eleanor o Aquitaine |
Priod | Berengaria o Navarra |
Partner | Joan de St. Pol, NN |
Plant | Philip o Cognac, Fulk |
Perthnasau | Harri y Llew, Alfonso VIII of Castile, Henry I of Castile, Sancho VII of Navarre |
Llinach | Llinach y Plantagenet |
Roedd yn fab i'r brenin Harri II a'i wraig Eleanor o Aquitaine. Ganed ef yn Rhydychen. Ei wraig oedd Berengaria o Navarra.
Roedd yn cael ei adnabod gan sawl llysenw: "Richard Coeur de Lion", "Oc et No", "Melek-Ric", "Rhisiart Lewgalon".
Ynghyd â'r Ymerodr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa a'r brenin Philippe II, roedd Rhisiart Coeur de Lion yn un o arweinwyr y Drydedd Groesgad (1189–1192). Pan ddaliwyd Rhisiart yn wystl yn yr Almaen gan Harri VI, Ymerawdwr Rhufeinig, cododd ei fam Eleanor bridwerth i'w ryddhau.
Cyfansoddodd gerddi yn null y trwbadwriaid yn Ffrainc yn ogystal.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Weir, Alison (2011). Eleanor of Aquitaine: By the Wrath of God, Queen of England (yn Saesneg). Dinas Efrog Newydd: Random House. t. 319. ASIN B004OEIDOS.
Rhagflaenydd: Harri II |
Brenin Lloegr 6 Gorffennaf 1189 – 6 Ebrill 1199 |
Olynydd: John |