Agor y brif ddewislen

Llyfr enwog gan Gerallt Gymro (Giraldus Cambriensis) yw Hanes y Daith Trwy Gymru neu Itinerarium Kambriae.

Mae'r llyfr, a ysgrifennwyd yn Lladin, yn fath o ddyddiadur sy'n cofnodi taith Gerallt trwy Gymru yng nghwmni Baldwin, Archesgob Caergaint yn 1188.

Mae'r Itinerarium yn ffynhonnell amhrisiadwy am Gymru yn yr Oesoedd Canol. Yn ogystal â disgrifio'r daith ei hun, a hynny'n fywiog a darllenadwy, mae Gerallt yn plethu pob math o hanesion a thraddodiadau a gododd ar y ffordd i mewn i'r naratif.

CefndirGolygu

Pwrpas swyddogol y daith oedd i hyrwyddo achos y Drydedd Groesgad a recriwtio Cymry i fynd i ymladd yn erbyn y Saraseniaid yn y Tir Sanctaidd. Ond digon claer oedd yr ymateb. Roedd gan y mwyafrif o'r Cymry bethau gwell i'w wneud. Roedd gan y bardd-dywysog Owain Cyfeiliog o Bowys resymau gwleidyddol am beidio rhoi croeso i archesgob o Norman yn ogystal ac nid aeth Gerallt a Baldwin drwy Bowys. Brysiog iawn oedd eu ymweliad â Gwynedd hefyd. Stori wahanol oedd hi yn y de ar ddechrau'r daith gan fod llawer o'r tir yn nwylo arglwyddi Normanaidd y Mers a'u cynghreiriaid.

Y daithGolygu

 
Map o daith Gerallt trwy Gymru yn 1188

Dyma'r prif lefydd yr ymwelodd Gerallt a'r archesgob â nhw ar y daith trwy Gymru, a ddechreuodd yn Henffordd a gorffenodd yn Amwythig:

Llyfr IGolygu

Henffordd a Maesyfed
Y Gelli ac Aberhonddu a Brycheiniog
Abergefenni, Caerleon, Casnewydd a Caerdydd
Llandaf, Margam, Abertawe a Gŵyr
Llwchwr, Gwendraeth, Cydweli, Caerfyrddin a'r Tŷ Gwyn ar Daf
Hwlffordd a Phenfro

Llyfr IIGolygu

Tyddewi, Cemais, Llandudoch
Aberteifi a Emlyn
Llanbedr Pont Steffan, Ystrad Fflur a Llanbadarn Fawr
Y Traeth Mawr, Nefyn, Caernarfon a Bangor
Ynys Môn
Degannwy, Rhuddlan, Llanelwy a Bryn y Glo
Glannau Dyfrdwy, Caer ac Amwythig

LlyfryddiaethGolygu

  • Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938). Cyfieithiad Cymraeg safonol o'r Daith a hefyd y Disgrifiad o Gymru.