Yr wyddor neu'r gelfyddyd o astudio, dylunio, a gwneud awyrennau yw awyrenneg (Saesneg: Aeronautics). Mae'r maes yn cynnwys: erodynameg, strwythurau awyrennau, systemau rheoli awyrennau, a dulliau gyrru.

Awyrenneg
Enghraifft o'r canlynolcangen o wyddoniaeth Edit this on Wikidata
Mathaerospace Edit this on Wikidata
Yn cynnwysaircraft construction, air traffic control Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Peirianwyr yn trwsio Lockheed C-5 Galaxy a gafodd ei daro gan daflegryn yn Rhyfel Irac. Mae profi, atgyweirio a chynnal a chadw yn rhan annatod o'r diwydiant awyrenneg.
Dyluniad o beiriannau hedfan gan Leonardo da Vinci, tua 1490
Y Wennol Ofod Atlantis ar wennol-awyren gario.

Dechreuodd awyrenneg adeg y balŵn ysgafnach nag aer pan astudiwyd y dull hwn o godi corff i'r awyr drwy hynofedd. Yn hwyrach datblygwyd awyrennau trymach nag aer: gleiderau, yr eroplen, Amrodyr (multirotors) fel yr hofrennydd a rocedi.[1]

Meysydd ac agweddau golygu

Yn ei hanfod, mae awyrenneg yn ymwneud â rhagfynegi a rheoli'r grymoedd a'r momentau sy'n effeithio ar awyrennau a rocedi wrth iddynt deithio drwy atmosffer y Ddaear.[2]

Maes rhyngddisgyblaethol yw awyrenneg, sy'n tynnu ar beirianneg, ffiseg, llywio, sgiliau'r peilot, a gwneuthuro. Ymhlith ei is-bynciau mae aerodynameg, dynameg hedfan, strwythurau, gyriant, electroneg a rocedeg. O ganlyniad i'w natur ryngddisgyblaethol, mae awyrenneg yn dibynnu ar wybodaeth, arbenigedd a datblygiadau o nifer o feysydd eraill. Er enghraifft, wrth ddylunio awyren bydd angen ystyried effeithiau aerodynamig ar gorff yr awyren, gyriant yr injan, defnyddiau a strwythurau'r awyren, a sut i sefydlogi a rheoli'r awyren o ran ei pheirianneg a'i electroneg.

Gwyddor debyg iawn yw astronoteg, sy'n ymwneud â'r un pethau ag awyrenneg ond y tu hwnt i atmosffer y Ddaear, hynny yw teithio i'r gofod. Term sy'n crybwyll y ddwy ddisgyblaeth yw awyrofod neu aerofod.[2]

Awyrennu golygu

Prif: Awyrennu

Yr holl weithgaredd sydd ynghlwm wrth gludiant hedfan a'r diwydiant awyrennau yw awyrennu. Mae'n ymwneud yn enwedig â datblygiad a hedfan awyrennau sy'n drymach nag aer. Rhennir awyrennu'n ddau faes: awyrennu sifil ac awyrennu milwrol.

Gwyddor awyrennol golygu

Astudiaeth egwyddorion gwyddonol hedfan yw gwyddor awyrennol. Er enghraifft, mae'n cwmpasu aerodynameg sef llifiad nwyon megis aer dros wynebau solid, sydd felly'n bwysig iawn wrth ystyried awyrennau'n hedfan drwy'r awyr.

Peirianneg awyrennol golygu

 
Darluniau o ddyluniad yr awyren fomio Sofietaidd Bolkhovitinov DB-A.

Dylunio a chynhyrchu awyrennau sy'n teithio o fewn atmosffer y Ddaear yw peirianneg awyrennol. Mae cwmnïau sy'n creu awyrennau yn defnyddio timau o arbenigwyr mewn gwahanol feysydd i weithio ar yr holl agweddau sy'n berthnasol: aerodynameg, systemau gyriant, dyluniad strwythurol, defnyddiau, afioneg, a systemau sefydlogi a rheoli.

Ynghŷd â pheirianneg astronotegol mae peirianneg awyrennol yn ffurfio peirianneg awyrofod.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. World Encyclopedia (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2005), aeronautics.
  2. 2.0 2.1 R. Martinez-Val ac E. Perez. "Aeronautics and astronautics: recent progress and future trends", Proceedings of the Institution of Mechanical Engineers, Part C: Journal of Mechanical Engineering Science (1 Rhagfyr 2009), cyfrol 223 rhif 12, tt. 2767-2820.

Dolen allanol golygu