Banc y Ddafad Ddu

banc Cymreig a fodolai ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19g.

Banc y Ddafad Ddu oedd enw poblogaidd Banc Aberystwyth a Thregaron Evans, Jones, Davies a'u cwmni (neu yn saesneg: Aberystwyth & Tregaron Bank). Fe'i sefydlwyd gan griw o borthmyn lleol Ceredigion ar ddiwedd y 18g. Mae'n enghraifft dda o'r banciau Cymreig lleol a fodolai ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19eg.

Banc y Ddafad Ddu
Enghraifft o'r canlynolbanc, busnes Edit this on Wikidata
Daeth i ben1815 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydagyrru gwartheg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1810 Edit this on Wikidata
Cynnyrchloans Edit this on Wikidata
PencadlysAberystwyth, Tregaron Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthAberystwyth Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.everythingaberystwyth.co.uk/aberystwyth-fact-of-the-week/ Edit this on Wikidata
Papur £2 Banc y Ddafad Ddu

Roedd pobl yn ei alw yn Fanc y Ddafad Ddu oherwydd fod yr arian papur yn dangos llun o ddafad ddu arno. Roedd y maint a nifer y defaid a bortreadid yn dibynnu ar werth yr arian papur; dim ond oen ddu oedd ar y papurau chweugain (deg swllt) er enghraifft, tra bod un ddafad ar y papur punt a dwy ddafad fawr ar y papurau dwy bunt. Mae nifer enghreifftiau o'r nodau hyn ar gael rhwng 1810 ac 1814, y flwyddyn yr aeth y banc yn fethdalwr a thalu difidend o chwe swllt ag wyth geiniog yn y bunt.[1]

Ceir cerflun bach o Ddafad Ddu ar Dŷ Westminster ar Heol y Bont, Aberystwyth. Cred rhai mai dyma oedd lleoliad Banc y Ddafad Ddu, er, mewn gwirionedd, Band y Llong oedd yno.

Oriel golygu

Rhai o'r banciau eraill yng Nghymru golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwyneth Lewis (Nadolig 1977). UN DDAFAD DDU - UN BUNT. Cymdeithas Bob Owen. Adalwyd ar 4 Mai 2012.
  • R. C. Jones, Arian: the story of money and banking in Wales (Abertawe, 1978).