Banc yr Eidion Du
Banc yr Eidion Du oedd enw banc Cymreig lleol a sefydlwyd gan borthmon o'r enw David Jones yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1799.
Enghraifft o'r canlynol | banc, busnes |
---|---|
Daeth i ben | 1909 |
Dechrau/Sefydlu | 1799 |
Olynydd | Lloyds TSB |
Pencadlys | Llanymddyfri |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Hanes
golyguFe'i sefydlwyd yn y 'King's Head' yn Llanymddyfri yn dangos llun o eidion ar ei nodau. Bu iddo hanes hir a llewyrchus; agorwyd canghennau yn Llanbedr Pont Steffan ac yn Llandeilo. Parhaodd ym meddiant yr un teulu hyd 1909 pryd y gwerthwyd yr ewyllys da i Fanc Lloyds. Ceir nodyn diweddar o'r flwyddyn 1898 am bum punt yn y Llyfrgell Genedlaethol dan law Gerwyn Jones, gor-ŵyr i'r David Jones a sefydlodd y banc bron i gan mlynedd cyn hynny gyda chymorth deng mil o bunnau o waddol ei wraig Ann, merch Rhys Jones o Gilrhedyn.[1]
Tra bod nifer o'r banciau llai eraill a agorid tua'r un adeg wedi mynd allan o fusnes erbyn canol y ganrif ddilynol, bu Banc yr Eidion Du yn fenter lwyddiannus iawn nes ei brynu gan Fanc Lloyds yn 1909.
Rhai o'r banciau eraill yng Nghymru
golygu- Banc y Llong, Aberystwyth (tua 1762)
- Banc y Ddafad Ddu (Aberystwyth & Tregaron Bank) (1762)
- Banc Gogledd a Deheudir Cymru (1836 - 1908)
- Cwmni Bancio Sir Forgannwg (1816)
- West of England and South Wales District Bank (1834)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyneth Lewis (Nadolig 1977). UN DDAFAD DDU - UN BUNT. Cymdeithas Bob Owen. Adalwyd ar 4 Mai 2012.