Bandung
Dinas yn rhan orllewinol ynys Jawa yn Indonesia yw Bandung. Hi yw prifddinas rhanbarth Gorllewin Jawa.
Arwyddair | Gemah Ripah Wibawa Mukti |
---|---|
Math | dinas Indonesia |
Poblogaeth | 2,875,673 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Yana Mulyana |
Cylchfa amser | UTC+07:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Jawa |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 168 ±1 km² |
Uwch y môr | 768 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | West Bandung, Cimahi, Bandung |
Cyfesurynnau | 6.902186°S 107.618756°E |
Cod post | 40111–40973 |
Pennaeth y Llywodraeth | Yana Mulyana |
Saif y ddinas 768 medr uwch lefel y môr, ac o'r herwydd mae'r hinsawdd yn llai poeth na'r dinasoedd ar y arfordir. Mae'r boblogaeth tua 2.8 miliwn. Daeth y ddinas i amlygrwydd rhyngwladol pan gynhaliwyd Cynhadledd Bandung yma yn 1955, y cyntaf o gyfres o gynhadleddau rhwng arweinwyr gwledydd Asia ac Affrica. Ceir nifer o brifysgolion yma.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Eglwys gadeiriol
- Gedung Sate
- Hotel Preanger
- Institut Teknologi Bandung
- Villa Isola
Enwogion
golygu- Johan Fabricius (1899-1981), awdur
- Tan Joe Hok (g. 1937), chwaraewr badminton