Cyfarfod o ddiplomyddion o nifer o wledydd Asia ac Affrica oedd Cynhadledd Bandung a gynhaliwyd yn ninas Bandung ar ynys Gorllewin Jawa, Indonesia, o 18 Ebrill i 24 Ebrill 1955. Trefnwyd y gynhadledd gan lywodraethau Indonesia, Byrma, Seilón, India, a Phacistan, a chynrychiolwyd y rhan fwyaf o boblogaeth y byd gan ddirprwyon o 29 o wladwriaethau a thiriogaethau.[1]

Gedung Merdeka, y neuadd gyfarfod yn ystod y gynhadledd.
Rhai o'r gwladweinwyr a deithiodd i'r gynhadledd (o'r chwith i'r dde): Gamal Abdel Nasser, cadeirydd Cyngor Chwyldroadol yr Aifft; Hussein, brenin Iorddonen; Kwame Nkrumah, Prif Weinidog y Traeth Aur; a Jawaharlal Nehru, Prif Weinidog India.

Ailddatganwyd gan Gynhadledd Bandung y pump egwyddor a gynhwysir yng Nghytundeb India a Tsieina ynghylch Tibet (1954): cyd-barch at gyfanrwydd tiriogaethol a sofraniaeth; anymosodedd; anymyrraeth; cydraddoldeb a chyd-fuddiannau; a chydfodolaeth heddychlon. Yn y blynyddoedd i ddod, datblygodd cydweithrediad rhyngwladol ymhellach yn annibynnol ar feysydd dylanwad Unol Daleithiau America a'r Undeb Sofietaidd, y ddau uwchbwer a fu ar naill ochr y Rhyfel Oer. Wrth i broses datrefedigaethu fynd ati, dygwyd mwy o wladwriaethau annibynnol yn rhan o'r hyn a elwir y Trydydd Byd, mewn cyferbyniad â'r Gorllewin a'r bloc Comiwnyddol, ac yng Nghynhadledd Beograd yn 1961 sefydlwyd y Mudiad Amhleidiol.

Rhestr y gwledydd a gynrychiolwydGolygu

 
Map sydd yn dangos y gwledydd a gynrychiolwyd yn y gynhadledd mewn lliw gwyrdd.

CyfeiriadauGolygu

  1. (Saesneg) Bandung Conference. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Chwefror 2020.