Baner Antigwa a Barbiwda

Dewisiwyd baner Antigwa a Barbiwda o dros 600 o ddyluniadau lleol mewn cystadleuaeth yn dilyn ennill hunan-lywodraeth i'r ynysoedd yn 1967 (buont yn drefedigaethau Prydeinig hyd nes 1981). Dywedodd Reginald Samuel, dyluniwr y faner â fabwysiadwyd ar 27 Chwefror 1967, bod y faner yn dangos yr haul yn codi yn erbyn cefndir etifeddiaeth Affricanaidd y bobl mewn oes newydd. Mae'n cynnwys haul melyn ar drapesiwm du sy'n cynrychioli gwreiddiau Affricanaidd y wlad, uwchben trapesiwm glas tenau i gynrychioli Môr y Caribî, uwchben triongl gwyn i gynrychioli gobaith. Mae'r siâp-V sy'n ffurfio o gorneli uwch y faner hyd ei chanol ar hyd y gwaelod yn sefyll am victory (Saesneg am fuddugoliaeth), a'i liw coch yn symboleiddio egni deinamig y boblogaeth.

Baner Antigwa a Barbiwda

Ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)


  Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Caribî. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato