Maes gwyrdd (i gynrychioli tir Bangladesh) gyda chylch coch (i symboleiddio'r frwydr am annibyniaeth) yn y canol tuag at yr hoist yw baner Bangladesh. Defnyddiwyd yn gyntaf ym Mawrth 1971 pan ddaeth y wlad yn annibynnol ar Bacistan yn dilyn rhyfel cartref; roedd map-silwét melyn o Fangladesh wedi'i osod o fewn y cylch coch. Mabwysiadwyd y dyluniad heb y map ar 25 Ionawr 1972.

Baner Bangladesh
Baner gyntaf y Fangladesh annibynnol

Ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Fangladesh. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.