Baner Barbados
Mabwysiadwyd baner genedlaethol Barbados ar 30 Tachwedd 1966, sef, diwrnod annibyniaeth gyntaf y genedl yma sydd yn y Caribî. Codwyd y faner gan y Lefftenant Hartley Dottin o Gatrawd Barbados. Cymuseredd y faner yw 3:2.[1]
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | dulas, aur, du |
Dechrau/Sefydlu | 30 Tachwedd 1966 |
Genre | vertical triband |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyluniad
golyguMae'r faner yn faner triband fertical gyda dau fand o liw dulas ar y naill ochr a band lliw aur yn y canol. Gosodir tridant (picell triphen) ddu, a elwir fel rheol yn 'broken trident', yng nghanol y band aur. Mae'r defnydd o liw a gwrthgyferbyniad lliw yn enghraifft dda o faner sy'n dilyn Rheol Tintur a luniwyd gan Humphrey Lhuyd yn y 16g.
Symboliaeth
golyguMae'r bandiau glas golau yn sefyll am y môr a'r awyr las a'r band aur yn sefyll am y tywod aur. Mae arwyddocâd hefyd i'r ffaith nad oes gwialenffon i'r tridant hefyd. Mae'n deillio o fathodyn trefedigaethol Barbados lle roedd tridant y duw Groegaidd Poseidon yn cael ei ddal gan ddelwedd Britannia. Mae'r rhan waelod sydd ar goll yn cyfleu toriad symbolaidd y genedl oddi ar fod yn drefedigaeth i Brydain.[2] Mae tri phig y tridant yn cynrychioli tair egwyddor democratiaeth, sef:
- Llywodraeth y bobl
- Llywodraeth i'r bobl
- Llywodraeth gan y bobl
Cynllunwyd y faner gan Grantley W. Prescod a dewiswyd hi mewn cystadleuaeth agored a drefnwyd gan Lywodraeth Barbados. Derbyniwyd dros fil o ymgeisyddion yn y gystadleuaeth.[3]
Gwybodaeth Dechnegol
golyguCôd liwiau swyddogol cydnabyddiedig y 'British Colour Council': Dulas — BCC 148; Aur — BS O/002.[4]
-
Baner forwrol 'White Ensign' Barbados
-
Ystondard (Is-Frenhinol) Rhaglaw Cyffredinol Barbados
-
Ystondard Frenhinol Barbados
Baneri Hanesyddol
golyguBaner | Cyfnod | Defnydd | Disgrifiad |
---|---|---|---|
1958–62 | Baner Ffederasiwn India'r Gorllewin (West Indies Federation) | Gelwir fel y "Sun and Seas Flag"[5]—Llain las gyda pedair bar donnog llorweddol wen (y ddau pâr yn gyfochrog i'w gilydd ond nid i'r pâr gyferbyn) gyda haul oern yn y canol. | |
1870–1966 | Baner Trefediaeth Brydeinig Barbados | Baner 'Blue Ensign' Brydeinig gydag arwyddlun Barbados |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-21. Cyrchwyd 2019-01-22.
- ↑ Flag of Barbados Archifwyd 2017-01-02 yn y Peiriant Wayback, Ministry of Foreign Affairs (Barbados)
- ↑ "Government of Barbados National Flag". Barbados.gov.bb. 12 November 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 April 2010. Cyrchwyd 4 July 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ CHAPTER 300A NATIONAL EMBLEMS AND NATIONAL ANTHEM OF BARBADOS (REGULATION), World Intellectual Property Office (WIPO)
- ↑ Princess Opens New Parliament (1958), YouTube