Mae gan faner Ciwba pum stribed llorweddol, tri'n las a dau yn wyn, gyda thriongl coch â seren wen yn ei ganol yn yr hoist. Dyluniwyd y faner yn 1848 ar gyfer y mudiad rhyddhad, oedd yn ceisio ennill annibyniaeth ar Sbaen a chael Ciwba'n dalaith Americanaidd. Roedd "y Seren Unig" (La Estrella Solitaria) yn cynrychioli seren arall i'w hychwanegu i faner yr Unol Daleithiau. Daw'r triongl o'r symbol Masonig am gydraddoldeb, tra bo'r pum stribed yn cynrychioli'r pum talaith oedd gan Giwba ar y pryd. Daeth Ciwba dan rym yr UD yn 1899, a mabwysiadwyd y faner yn swyddogol ar 20 Mai, 1902 pan ddaeth y wlad yn annibynnol (nad oedd Ciwba byth yn dalaith Americanaidd).

Baner Ciwba
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol, baner Edit this on Wikidata
Lliw/iauglas, gwyn, coch Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu20 Mai 1849 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Ciwba

Ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)


  Eginyn erthygl sydd uchod am Nghiwba. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato