Baner De Affrica
Mabwysiadwyd baner De Affrica ar 27 Ebrill, 1994 yn dilyn diwedd apartheid a chynnal etholiadau rhydd cyntaf y wlad. Daw'r lliwiau du, gwyrdd a melyn o faner Cyngres Genedlaethol Affrica (ANC) (du am y bobl, gwyrdd am y tir a melyn am gyfoeth) a'r coch, gwyn a glas o liwiau gweriniaethau'r Boeriaid. Mae'r siâp-Y yn cynrychioli cydgyfeiriant hen draddodiadau gyda'r newydd a gwelliant y wladwriaeth unedig yn y dyfodol.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/af/Flag_of_South_Africa.svg/250px-Flag_of_South_Africa.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f9/FIAV_110110.svg/23px-FIAV_110110.svg.png)
ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)