Lansiwyd baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahara neu'n aml baner Gorllewin Sahara neu baner Sahrawi yn swyddogol ar 27 Chwefror 1976. Mae'r faner yn dangos triongl coch ar ochr y mast gyda thri band (top i'r gwaelod) du, gwyn a gwyrdd gyda seren goch a chilgant yn y lôn wen. Does dim cilgant a seren ar ochr chwith y faner.

Baner Gorllewin Sahara, GDdAS, cymesuredd, 1:2)

Baner mudiad annibyniaeth y Polisario ydy hwn. Mae anghydfod dros statws gyfansoddiadol y wlad, bu'n drefedigaeth Sbaenaidd, gyda Moroco ar hyn o'r bryd yn meddiannu'r rhan fwyaf o'r wlad.

Symbolaeth

golygu

Weithiau rhoddir ystyron unigol i'r lliwiau: mae du yn cynrychioli marwolaeth, mae gwyn yn cynrychioli heddwch a gwyrdd yn cynrychioli bywyd.

Dylunio

golygu
 
Esboniad o faner chwith

Y triongl coch yw traean o hyd y faner ac mae cefn y faner yn wahanol i'r tu blaen gan nad yw'r lleuad seren a chilgant yn cael ei harddangos ar y cefn. Mae'r faner yn defnyddio'r lliwiau Pan-Arabaidd, ac yn enwedig mae'r cefn yn union yr un fath â baner Palesteina.

Mae'r faner, sydd â chynllun wahanol ar uch ochr a'r llall yn ymuno â nifer dethol o faneri cenedlaethol tebyg gan gynnwys Paragwâi a baner Sawdi Arabia.

Dywedir pan fydd Gorllewin Sahara yn ennill annibyniaeth lawn dros ei thiriogaeth y bydd y lliw gwyrdd yn mynd ar y band top a'r du yn mynd i'r gwaelod.[1]

Ysbrydolaeth Baner Gorllewin Sahara

golygu

Ceir ysbrydoliaeth i ddyluniad baner Gorllewin Sahara o liwiau a chynlluniau baneri Pan-Arabaidd (coch, gwyn, du a gwyrdd) megis yr Aifft, Coweit a hefyd baneri sy'n arddangos symbolau y ffydd [[Mwslemiaeth|Fwslemaidd] - y cilgant a'r seren, megis Aljeria ac Aserbaijan.

 
Yr actores Sbaenaidd, Verónica Forqué yn chwifio'r faner yng Ngŵyl Ffilm y Sahara
 
Cofnodi 30 mlwyddiant diwrnod annibyniaeth yn nhref Tifariti, Gorllewin Sahara

Yn niwedd y 19g, daeth Gorllewin Sahara yn drefedigaeth Sbaeneg. Gyda cwymp llywodraeth ffasgaidd Franco ac yn dilyn cytundeb Madrid ym 1975, fe wnaeth Sbaen ymddieithrio ei hun a gadael yr ardal i Foroco a Mauritania. Rhannwyd yr ardal rhwng y ddwy wlad gyda Moroco, a oedd â dwy ran o dair o'r diriogaeth. Gwrthododd hyn gan Ffrynt Polisario gan datgan llywodraeth Gweriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahara yn alltud fel cynrychiolydd y wladwriaeth Sahara Gorllewinol “annibynnol”.[2]

Ym 1979, llofnododd Mauritania ddatganiad heddwch gyda'r Polisario Front a Moroco yn atodi'r rhan a oedd gynt yn perthyn i Mauritania. Arwyddwyd cadoediad gan y Cenhedloedd Unedig rhwng y ddau barti ym 1991 ond mae sofraniaeth y diriogaeth yn dal heb ei datrys hyd nes y ceir trafodaethau heddwch parhaus.[2]

Baneri rhanbarthol Moroco (1976–1997)

golygu

Yn ôl trefniant llywodraeth taleithiol Moroco, rhwng 1976–1997, roedd tair talaith yn cynnwys rhannau o diriogaeth hanesyddol Gorllewin Sahara. Fodd bynnag, ad-drefnwyd y taleithiau ym 1997. O ganlyniad, nid yw rhai o'r baneri hyn yn cael eu defnyddio'n swyddogol mwyach.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.fotw.info/flags/eh.html
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Staff. "CIA - Die Wêreldfeiteboek". CIA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-12. Cyrchwyd 13 Mawrth 2012.
  3. (Saesneg) "Subnasionale vlae van Marokko". flagspot. Cyrchwyd 13 Maart 2012. Check date values in: |accessdate= (help)

Dolenni allanol

golygu