Baner Gwlad Tai
Fe elwir baner Gwlad Tai yn y Trairanga ("trilliw"). Mae'n cynnwys dau stribed llorweddol coch ar y brig a'r gwaelod, sy'n symboleiddio gwaed bywyd, dau stribed llorweddol gwyn, sy'n cynrychioli purdeb Bwdhaeth, a stribed llorweddol llydan glas yn y canol i symboleiddio'r frenhiniaeth.
Fe elwir Gwlad Tai yn "Wlad yr Eliffant Gwyn", ac ymddangosodd y symbol hwn ar faner goch blaen yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ychwanegwyd stribedi llorweddol gwyn uwchben ac o dan yr eliffant. Yn 1917 cafwyd gwared ar yr eliffant, ac ychwanegwyd stribed llorweddol glas i ganol y faner er mwyn cynrychioli undod â'r Cynghreiriaid (yr oedd y mwyafrif o'u baneri hwy yn goch, gwyn a glas); mabwysiadwyd y faner gyfredol hon ar 28 Medi y flwyddyn honno.
Ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)