Baner Lithwania
Baner drilliw lorweddol gyda stribed melyn ar y brig, gwyrdd yn y canol a choch ar y gwaelod yw baner Lithwania. Mae'r melyn yn cynrychioli gwenith (sef bwyd, ac felly rhyddid oddi ar eisiau), tra bo gwyrdd yn symboleiddio coedwigoedd y wlad (a gobaith) a choch yn cynrychioli'r gwaed a gollwyd trwy amddiffyn y genedl (gwladgarwch a dewrder). Roedd coch hefyd yn lliw llumanau canoloesol Teyrnas Lithwania.
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | melyn, gwyrdd, coch |
Dechrau/Sefydlu | 1820 |
Genre | horizontal triband |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bu'n faner genedlaethol swyddogol rhwng 1918 a 1940, pan oedd Lithwania yn weriniaeth annibynnol, ond fe gwaharddwyd o dan reolaeth Sofietaidd o 1940 i 1989. Ail-fabwysiadwyd ar 20 Mawrth, 1989.
Ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)