Baner ddeuliw fertigol gyda stribed chwith gwyn a stribed dde coch yw baner Malta. Daw'r lliwiau o fathodyn Marchogion Malta. Yn y canton mae Croes Siôr wedi'i hamlinellu'n goch; rhoddwyd yr anrhydedd i bobl Malta gan George VI, brenin y Deyrnas Unedig am ddewrder yn yr Ail Ryfel Byd. Mabwysiadwyd ar 21 Medi, 1964.

Baner Malta

Malta, Cymru a Bhwtan yw'r unig wledydd cyfredol sydd â draig ar eu baneri, er y bu ddraig ar faner Tsieina yn ystod Brenhinllin Qing. Mae'r ddraig yn ymddangos yn Nghroes Siôr sydd yn dangos San Siôr ar gefn ceffyl yn lladd draig.

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Falta. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato