Baner Cymru
Daeth baner Cymru (a elwir hefyd y Ddraig Goch) yn faner swyddogol Cymru yn 1959. Mae'n dangos draig goch ar faes gwyrdd a gwyn. Am gyfnod, ymddangosodd y ddraig ar fryn gwyrdd, ond mae'r hanneriad llorweddol yn draddodiadol. Hi yw'r unig faner o un o wledydd y Deyrnas Unedig nad yw'n ymddangos ar Faner yr Undeb. Y rheswm hanesyddol am hyn oedd statws gwleidyddol Cymru yng nghyfundrefn gyfreithiol a gweinyddol coron Loegr yn dilyn y Deddfau Uno (1536–1543).
Enghraifft o'r canlynol | baner endid gweinyddol o fewn un wlad, baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | gwyn, gwyrdd, coch |
Dechrau/Sefydlu | Tua: 655 OC |
Dechreuwyd | Yn ei ffurf bresennol: 1959 |
Genre | horizontal bicolor flag, charged flag |
Yn cynnwys | y Ddraig Goch |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cymru, Bhwtan a Malta yw'r unig wledydd cyfredol sydd â draig ar eu baneri, er y bu ddraig ar faner Tsieina yn ystod Brenhinllin Qing.
Y Ddraig Goch fel baner y Cymry
golyguBaner cyntaf o'r Ddraig Goch?
golyguFe sonir am y ddraig goch yn hedfan yn yr awel yn y gerdd "Gwarchan Maelderw" yn ystod Brwydr Catraeth.Yn ogystal fe sonir am yr haul a'r Duw "Hu". Ysgrifenwyd y gerdd gan Taliesin ond mae'n ymddangos yn y Llyfr Aneirin. Crewyd y faner gan "Archimagus" neu archdderwydd ar gyfer Maelderw, arweinydd y lluoedd brodorol er mwyn amddiffyn y Brythoniaid.[1][2] Mae'r faner hon yn cynnwys delwedd o'r arweinydd, yr haul a'r ddraig goch. Roedd y derwyddon Gwyddelig hefyd yn paratoi baneri'r haul i'w harweinwyr, sef y faner "Dal-greine".[3]
Mae'r cyfeiriad yn darllen mewn Cymraeg Canol "Disgleiryawr ac archawr tal achon//arrud dhreic fud pharaon", sydd yn anodd ei chyfiethu'n gywir, ond mae "rud dhreic" yn gallu cael ei chyfieithu i "draig goch". Mae "pharaon" i'w weld yn Lludd and Llefelys, am y ddwy ddraig dan adeilad Gwrtheyrn, gan awgrymu fod y dyfyniad hwn yn ffynhonnel ar gyfer stori'r Mabinogi, lle mae'r ddraig yn goch unwaith eto.[4] Mae'n bosib mai dyma'r cyfeiriad cyntaf at ddraig goch yn llenyddiaeth Cymru yn y 6g. Y gair "pharaon" yw'r enw hynafol ar Ddinas Emrys, ac mae'r cyfeiriad hon dwy ganrif cyn cofnod Nennius yn Historia Brittonum o stori Lludd a Llefelys; arwydd posib o darddiad hyd yn oed hŷn na hyn.[5]
Gwelir y farddoniaeth gwreiddiol o Gwarchan Maeldrw ac ymdrech i'w gyfieithu (o gyfieithiad Saesneg).[6][1]
“ | Molawt rin rymidhin rymenon.
(Moliant yw rhaniad y rhai a ryfeddant.) Dyssyllei trech tra manon. (Syllai'r buddugol tra teg.) Disgleiryawr ac archawr tal achon (Disgleiro ac amlwg tal flaen.) ar rud dhreic fud pharaon. (a'r rhudd-ddraig fydd pharaon.) Kyueillyawr en awel adawaon. (Cyfeilir ar awel ei bobl.) |
” |
Owain Glyndŵr
golyguAdnabuwyd baner Owain Glyndŵr fel 'Y Ddraig Aur'. Fe'i codwyd yn enwog dros Gaernarfon yn ystod Brwydr Tuthill yn 1401 yn erbyn y Saeson. Dewisodd Glyndŵr i chwifio safon draig aur ar gefndir gwyn, y safon draddodiadol a ddefnyddiodd Uthr Benddraig, fel arewinydd y Brythoniaid Celtaidd cyntaf wrth iddynt frwydro yn erbyn y Sacsoniaid bron i 1,000 o flynyddoedd ynghynt, cyn iddo drosglwyddo'r symbol i’w fab y Brenin Arthur.[7][8][9]
Adroddir Adam o Wysg mai draig aur Glyndwr oedd y defnydd cyntaf o safon draig a ddefnyddiwyd mewn rhyfel gan filwyr Cymru ar y 1af o Dachwedd, 1401.[10] [11] Ychwanega'r hanesydd John Davies fod y ddraig a godwyd gan Glyndŵr yn symbol o fuddugoliaeth i'r Brythoniaid Celtaidd.[12]
Hari Tudur
golyguAr feddrod Edmwnd Tudur, mae ei ddelw yn gwisgo coron wedi'i gosod gyda "draig Cadwaladr".[13] [14] Yn dilyn buddugoliaeth ei fab ym Mrwydr Maes Bosworth, defnyddiodd Harri VII ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd wrth fynd i mewn i Eglwys Gadeiriol Sant Pawl.[15] Defnyddiodd Harri’r VII fotiff y ddraig fel rhan o herodraeth tŷ Tuduraiddyn hytrach na Chymru.[12] Defnyddiwyd "draig Cadwaladr" fel cefnogwr ar arfbeisiau brenhinol holl sofraniaid Tuduraidd Lloegr ac ymddangosodd hefyd ar safonau Harri VII a Harri VIII.[16]
Defnydd fodern cyntaf
golyguYn Eisteddfod Lerpwl yn 1840, defnyddiwyd "safon sidan a osodwyd dros gadair y llywydd, ar yr hon a banetiwyd ddraig goch, ar ddaear werdd, gyda ffîn wen - hon, y dywedodd, oedd wedi'i hanfon ato gan Mr Davies o Cheltenham, a oedd o hyd yn barod i gynnal cofiant a dewrder ei ac ein gwlad." Roedd y safon sidan hefyd yn cynnwys yr arwyddair "y ddraig goch ddyle gychwyn".[17] Yn wreiddol awgrymwyd draig aur ac "urdd marchog i Gymru".[18] Dwy flynydd yn ddiweddarach, defnyddiwyd baneri gyda'r ddraig goch yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni,1842.[19] Yna, yn 1865, hwyliodd long y Mimosa i Batagonia gan hedfan baner y ddraig goch.[20]
Bathodyn brenhinol
golyguNi ddaeth y ddraig goch yn fathodyn herodrol brenhinol swyddogol tan 1800, pan gyhoeddodd Siôr III warant brenhinol yn cadarnhau'r bathodyn.[21]
Yn 1901, ychwanegwyd y ddraig goch i arfbais Tywysog Cymru Brenhiniaeth Prydain gan y brenin.[22]
Yn y pen draw, cynigiodd y palas Brydeinig gyfaddawd ar ffurf bathodyn brenhinol newydd yn ystod blwyddyn y coroni yn 1953. Ailgynlluniwyd y ddraig draddodiadol ac ychwanegwyd coron gyda'r arwyddair 'Y DDRAIG GOCH DDYRY CYCHWYN'.[23]
Dirmygodd Winston Churchill, y prif weinidog ar y pryd, gynllun y bathodyn, fel y datgelir yng nghofnod canlynol y Cabinet o 1953:
“ | Winston Churchill:
"Odious design expressing nothing but spite, malice, ill-will and monstrosity.
"Wd. rather be on R[oyal] Arms. This (dating from Henry VII) will be something.
|
” |
Baner fodern
golyguYm phasiant cenedlaethol Cymru 1909, mae'r ddraig Gymreig yn ymddangos yn sefyll ar gefndir gwyn. Mae'r ddraig Gymreig sy'n ymddangos ar y faner ar fwrdd Terra Nova Capten Scott hefyd yn ddraig sefyll ar gefndir gwyn a gwyrdd. Hyd at y pwynt hwn, nid oedd fersiwn safonol o'r ddraig Gymreig.[25]
Defnyddiwyd y ddraig ar faneri yn ystod digwyddiadau'r bleidlais i fenywod yng Nghymru yn y 1900au a'r 1910au. Roedd dogfennau derbyn y faner yn sywddogol yn cynnwys un nodyn gan un o gyn-aelodau “Gweithiwyd y faner gan Mrs Henry Lewis… [hi] hefyd oedd Llywydd Ffederasiwn Cymdeithasau Pleidlais Merched De Cymru + bu’n arwain adran De Cymru o’r Bleidlais Fawr Gorymdaith yn Llundain ar 17 Mehefin 1911, yn cerdded o flaen ei baner hardd ei hun… Bu’n achlysur gwych, rhyw 40,000 i 50,000 o ddynion + merched yn cymryd rhan yn y daith gerdded o Whitehall drwy Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly i’r Albert Hall. Denodd y ddraig lawer o sylw – “Dyma’r Diafol” oedd cyfarchiad un grŵp o wylwyr.” [26]
Dydd Gwyl Dewi 1910-33
golyguRhwng 1910 ac 1916 bu sawl apêl gan gyngor trêf Caernarfon i godi baner y ddraig goch ar ben tŵr Eryr castell Caernarfon i gymryd lle baner yr undeb. Dywedodd y maer a dirprwy gwnstabl y castell, Charles A Jones, fod "yr awdurdodau wedi'u cynghori fod dim fath beth â baner Gymreig... dim ond bathodyn".[27][28][29]
Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1932, wedi gwisgo mewn dillad beic modur, dringodd John Edward Jones (JE Jones) i ben Tŵr yr Eryr, Castell Caernarfon gyda thri arall, gan gynnwys nai David Lloyd George, William RP George. Yno fe wnaethon nhw ostwng Jac yr Undeb, a chodi’r Ddraig Goch a hoelio'r rhaffau i’r poly gyda styfflau a morthwyl. Arweiniodd hyn at ganu Hen Wlad Fy Nhadau gan dyrfa islaw. Wedi hyn, daeth y gwnstabliaeth leol gan roi baner yr undeb yn ôl i fyny. Yn hwyrach, daeth criw o fyfyrwyr Plaid Cymru o Fangor i’r amlwg ar gefn lori, gan dynnu baner yr undeb i lawr unwaith eto, a'i rwygo i ddarnau ar y maes.[30] [31][32]
Ar ddydd Gwyl Dewi 1933, codwyd baner y Ddraig Goch yngyd a baner yr undeb a pherfformiwyd y seremoni gan David Lloyd-George. Yn fuan wedyn, chwifiwyd baner Cymru ar holl adeiladau'r llywodraeth ar Fawrth y 1af. Sicrhaodd JE Jones fod canghennau Plaid Cymru ar draws y wlad yn pwyso ar yr awdurdodau lleol i wneud yr un peth. Yna trefnodd gynhyrchu mwy o faneri, a'u gwerthu gan wneud elw.[30]
Defnydd swyddogol
golyguYm 1959, gollyngwyd defnydd y Llywodraeth o faner y bathodyn brenhinol o blaid y faner bresennol[33][34] ar anogaeth Gorsedd y Beirdd.[4]
Fel arwyddlun, mae draig goch Cymru yn bresennol ar faner genedlaethol Cymru, a ddaeth yn faner swyddogol yn 1959.[35]
Diwylliant boblogaidd
golyguYn y ffilm Black Panther, ymddengys baner Cymru yn cynrychioli Cymru annibynnol yn y Cenhedloedd Unedig.[36]
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Davies, Edward (1809). “The” Mythology And Rites Of The British Druids, Ascertained By National Documents; And Compared With The General Traditions And Customs Of Heathenism, As Illustrated By The Most Eminent Antiquaries Of Our Age ; With An Appendix, Containing Ancient Poems And Extracts, With Some Remarks On Ancient British Coins (yn Saesneg). J. Booth. tt. 582–588.
- ↑ "Gwarchan of Maelderw". www.maryjones.us. Cyrchwyd 2024-01-14.
- ↑ Cambrian Quarterly Magazine and Celtic Repertory (yn Saesneg). proprietors. 1832. t. 322.
- ↑ 4.0 4.1 Lofmark, Carl (1995). A History of the Red Dragon. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-317-8.
- ↑ "Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 – c.1500" (PDF).
- ↑ Maclagan, Robert Craig (1882). Scottish Myths: Notes on Scottish History and Tradition (yn Saesneg). Maclachlan and Stewart. t. 70. ISBN 978-0-598-73846-2.
- ↑ Hackett, Martin (15 July 2014). Lost Battlefields of Wales. Amberley Publishing. ISBN 9781445637037 – drwy Google Books.
- ↑ Davies, John (25 Ionawr 2007). A History of Wales. Penguin. ISBN 9780140284751 – drwy Google Books.
- ↑ Breverton, Terry (15 May 2009). Owain Glyndwr: The Story of the Last Prince of Wales. Amberley Publishing. ISBN 9781445608761 – drwy Google Books.
- ↑ Jones, Francis (1969). The Princes and Principality of Wales (yn Saesneg). University of Wales P. t. 177. ISBN 978-0-900768-20-0.
- ↑ Ramsay, Sir James Henry (1892). Lancaster and York: A Century of English History (A.D. 1399-1485) (yn Saesneg). Clarendon Press.
- ↑ 12.0 12.1 Davies, John (2007-01-25). A History of Wales (yn Saesneg). Penguin Publishing Group. ISBN 978-0-14-028475-1.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwCombe 1812
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwMeara 1983
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwArchaeologiaCambrensis1853
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwWoodward1896
- ↑ "Register | British Newspaper Archive". www.britishnewspaperarchive.co.uk. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "Register | British Newspaper Archive". www.britishnewspaperarchive.co.uk. Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ "The illustrated London news v.1 1842". HathiTrust (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-23.
- ↑ Jobbins, Siôn T. (2016). The Red Dragon: The Story of the Welsh Flag (yn Saesneg). Y Lolfa. t. 40. ISBN 978-1-78461-135-4.
- ↑ Maxwell Fyfe, David (9 February 1953). "Arms for Wales; Memorandum by the Secretary of State for the Home Department and Minister for Welsh Affairs" (PDF). nationalarchives.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-08-04. Cyrchwyd 2020-04-15.
- ↑ "Page 8714 | Issue 27385, 10 December 1901 | London Gazette | The Gazette". www.thegazette.co.uk. Cyrchwyd 2023-09-10.
- ↑ Eriksen, Thomas Hylland; Jenkins, Richard (2007-10-18). Flag, Nation and Symbolism in Europe and America (yn Saesneg). Routledge. t. 80. ISBN 978-1-134-06696-4.
- ↑ "Highlights of new Freedom of Information releases in August 2007 > The Cabinet Secretaries' Notebooks (CAB 195/11) > Arms for Wales". The National Archives (United Kingdom). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 November 2007.
- ↑ Phillips, Elen (1 March 2012). "Captain Scott's Welsh Flag". Amgueddfa Cymru: Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
- ↑ ""Here comes the Devil": Welsh Suffrage and the Suffragettes". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
- ↑ Caernarvon & Denbigh Herald, Friday 20 October 1916 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0002967/19161020/096/0006
- ↑ Western Mail, Friday 07 April 1916 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000104/19160407/130/0004
- ↑ Liverpool Echo, Thursday 09 April 1914 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000271/19140409/144/0008
- ↑ 30.0 30.1 "JE – Architect of Plaid Cymru Address by Dafydd Williams – Hanes Plaid Cymru" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-24.
- ↑ "Carnarvon Castle (National Flag)".
- ↑ Western Morning News, Wednesday 02 March 1932 - www.britishnewspaperarchive.co.uk/viewer/bl/0000329/19320302/071/0007
- ↑ Barraclough, Edward Murray Conrad (1965). Flags of the World (yn Saesneg). Warne.
- ↑ "WELSH FLAG (Hansard, 23 February 1959)". hansard.millbanksystems.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-06. Cyrchwyd 2023-02-15.
- ↑ "Wales history: Why is the red dragon on the Welsh flag?". BBC News (yn Saesneg). 2019-07-06. Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ Williams, Kathryn (2018-02-16). "Welsh flag flies as independent state in Marvel film Black Panther". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-24.
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref>
o'r enw "BBC2008", a ddiffinir yn <references>
, yn y testun blaenorol.
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref>
o'r enw "BBC2014", a ddiffinir yn <references>
, yn y testun blaenorol.
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref>
o'r enw "Llywelyn2017", a ddiffinir yn <references>
, yn y testun blaenorol.
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref>
o'r enw "OPSI", a ddiffinir yn <references>
, yn y testun blaenorol.
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref>
o'r enw "Sikes1881", a ddiffinir yn <references>
, yn y testun blaenorol.
Gwall cyfeirio: Ni ddefnyddir y tag <ref>
o'r enw "WalesOffice", a ddiffinir yn <references>
, yn y testun blaenorol.
<ref>
o'r enw "Williams1960", a ddiffinir yn <references>
, yn y testun blaenorol.Llyfryddiaeth
golygu- Gantz, Jeffrey (cyfieithydd) (1987). Y Mabinogion . Efrog Newydd: Penguin.ISBN 0-14-044322-3ISBN 0-14-044322-3
- Jobbins, Siôn T. (2016), The Red Dragon: The story of the Welsh flag, Tal-y-bont: Y Lolfa
- Lofmark, Carl (1995), A History of the Red Dragon, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, ISBN 0-86381-317-8
- Koch, John T. (2006). Celtic Culture: A Historical Encyclopedia. ABC-CLIO. ISBN 1-85109-440-7.