Baner drilliw fertigol yw baner Mongolia a chanddi stribedi cochion yn yr hòs a'r fflei a stribed glas yn y canol. Yn stribed coch yr hòs mae casgliad o symbolau melyn a elwir soyombo sydd yn cynrychioli egwyddorion crefyddol a diwylliannol Mongolia: tân, haul, lleuad, in-iang, a thrionglau a phetryalau.

Baner Mongolia

Yn hanesyddol, glas oedd lliw cenedlaethol y Mongolwyr gan iddo gynrychioli'r wybren glir – a gysylltir â'r duw Tengri – uwchben stepdiroedd Canolbarth Asia, y tiroedd a deithasant a gorchfygasant. Defnyddir lliw melyn mewn baneri Mongolia ers i'r enwad Bwdhaidd Dge-lugs-pa (Sect y Hetiau Melynion) ddod i Fongolia o Dibet yn yr 16g.[1]

Adeg sefydlu'r Chaniaeth Sanctaidd yn sgil Chwyldro Mongolia yn 1911 defnyddiwyd arwyddion soyombo a blodau alaw'r dŵr, symbol o burdeb, ar faner ac arfbais y wlad. Dan lywodraeth gomiwnyddol o 1921 i 1924, defnyddiwyd baner goch gyda chylch yr haul a chilgant y lleuad yn felyn yn y canton. Yn y cyfnod 1924–30 defnyddiwyd maes coch gyda'r soyombo ac alaw'r dŵr yn las yn ei ganol. Yn y cyfnod 1930–40 defnyddiwyd baner drilliw lorweddol a chanddi stribedi cochion ar y brig a'r gwaelod, stribed glas yn y canol, a'r soyombo yn felyn ac alaw'r dŵr yn wyrdd o fewn cylch golau yng nghanol y faner. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pryd yr oedd yn ymddangos yn debygol y byddai'r wlad yn ymuno â'r Undeb Sofietaidd, mabwysiadwyd baner goch gydag arwyddlun yn ei chanol yn debyg i faneri'r gweriniaethau Sofietaidd. Wedi'r rhyfel, pan sefydlwyd Gweriniaeth Pobl Mongolia, mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol gyda seren felen, i symboleiddio comiwnyddiaeth, uwchben y soyombo a lliw glas goleuach i'r stribed canolog. Cafwyd gwared â'r seren sosialaidd yn 1992, dwy flynedd wedi'r Chwyldro Democrataidd, ac yn 2011 – canrif ers mabwysiadu baner genedlaethol gyntaf Mongolia – newidiwyd arlliw'r glas yn y stribed canolog.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Flag of Mongolia. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2018.