Lluman glas (sef maes glas gyda Baner yr Undeb yn y canton) gydag arfbais Montserrat yn y fly yw baner Montserrat. Mae'r arfbais yn dyddio o 1909; mae'n dangos dynes mewn gwyrdd sy'n dal croes, i symboleiddio Cristnogaeth, a thelyn, i gynrychioli'r mewnfudwyr o Iwerddon a setlodd ar yr ynys yn 1632. Ail-fabwysiadwyd yr arfbais yn 1962 yn sgîl diddymiad Ffederasiwn India'r Gorllewin.

Baner Montserrat

Ffynonellau

golygu
  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)