Baner Sierra Leone
Baner drilliw lorweddol o stribedi gwyrdd (i gynrychioli adnoddau naturiol ac amaethyddol Sierra Leone), gwyn (i symboleiddio cyfiawnder) a glas (i gynrychioli harbwr naturiol y brifddinas Freetown) yw baner Sierra Leone. Dyluniwyd gan Goleg yr Arfau yn Llundain yn 1960 a mabwysiadwyd gan y wlad ar 27 Ebrill, 1961, flwyddyn ei hannibyniaeth.
ffynonellau
golygu- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)