Disgrifir baner Tyrcmenistan (Turkmeneg: Türkmenistanyň baýdagy, Түркменистаның байдагы) fel Maes gwyrdd ac arno pum seren wen a chilgant a stribed fertigol coch ger y hòs yw baner Tyrcmenistan. Ar hyd y stribed coch darlunir pum patrwm carpedi traddodiadol, uwchben torch olewydd. Mae'r stribed goch yn ddarlun o garpedi enwog y wlad.
Cyflwynwyd y faner ar 27 Medi 1992 gan ddisodli baner Sofietaidd y wlad (gw. isod). Newidiwyd cymeseredd y faner rhywfaint ar 24 Ionawr 2001 gan fabwysiadu ratio 2:3.
Yn ystod yr Undeb Sofietaidd hyd nes annibyniaeth yn 1991, roedd baner Tyrcmenistan yn debyg i holl faneri eraill gweriniaethau eraill yr Undeb Sofietaidd.
1:2 Tyrcmenistan ASSR, 1919 tan 1924
1:2 Gweriniaeth Tyrcmenistan yn yr Undeb Sofietaidd, 1 Awst 1953 tan 1991
1:2 Gweriniaeth Tyrcmenistan Undeb Sofietaidd, 1 Awst 1953 tan 1991, tu cefn