Bara Gosod
Daw'r ymadrodd o'r Beibl (Ecsodus 25:30; Mathew 12:4). Bara neilltuol ydyw i'w gadw yng ngŵydd Duw.
Yn y nofel Rhys Lewis (gan Daniel Owen) cyfeirir at fara gosod yn y bennod sy'n dwyn y teitl 'Abel Huws' (pennod XIX) lle mae Rhys a'i fam ar eu cythlwng. Dywed y fam: "Mi ddaru Dafydd, wel di, un tro pan oedd chwant bwyd arno, fwyta o'r bara gosod, ac y mae'r Gwaredwr wedi ei gyfiawnhau o am hynny."