Barbara Hardy
Roedd Barbara Hardy, FRSL, FBA (g. Nathan; 27 Mehefin 1924 - 12 Chwefror 2016) yn ysgolhaig llenyddol, awdur, a bardd o Gymru. Fel academydd, arbenigodd yn llenyddiaeth y 19eg ganrif. Rhwng 1965 a 1970, bu’n Athro Saesneg yng Ngholeg Brenhinol Holloway, Prifysgol Llundain. Yna, rhwng 1970 a 1989, bu’n Athro Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Birkbeck, Prifysgol Llundain.[1]
Barbara Hardy | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mehefin 1924 Abertawe |
Bu farw | 12 Chwefror 2016 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd llenyddiaeth, bardd, llenor, ysgolhaig llenyddol, academydd, llenor dysgedig |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Hardy ar 27 Mehefin 1924 yn Abertawe. Roedd hi'n ferch i Maurice Nathan, morwr, a’i wraig Gladys (née Abrahams), a oedd yn gweithio mewn swyddfa yswiriant ac yn ddiweddarach fel clerc i fargyfreithiwr. Addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd y Merched Abertawe. Ym mis Chwefror 1941, bu'n byw drwy Blitz Abertawe. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Llundain, gan raddio gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau (BA) ym 1947 a gradd Meistr yn y Celfyddydau (MA) ym 1949.[2]
Anrhydeddau
golyguYm 1962, dyfarnwyd Gwobr Rose Mary Crawshay i Hardy gan yr Academi Brydeinig am ei monograff The Novels of George Eliot. Ym 1997, dyfarnwyd Gwobr Sagittarius iddi gan Gymdeithas yr Awduron am ei nofel London Lovers.[3] Fe’i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol (FRSL) ym 1997, ac yn Uwch Gymrawd yr Academi Brydeinig (FBA) yn 2006.[4]
Teulu
golyguPriododd Ernest Hardy, swyddog yn y gwasanaeth sifil ym 1946 bu iddynt un ferch.[1]
Gweithiau dethol
golyguAcademaidd
golygu- The novels of George Eliot: a study in form. (Athlone Press 1959).
- A reading of Jane Austen.( Peter Owen Publishers 1979).[5]
- The moral art of Dickens: essays. (Athlone Press 1985).[6]
- Thomas Hardy: imagining imagination in Hardy's poetry and fiction. (Athlone Press 2000).[7]
- George Eliot: a critic's biography. Continuum (2006).[8]
Personol
golygu- Swansea girl: a memoir. (Peter Owen Publishers 1994).[9]
- London lovers (Peter Owen Publishers 1996).[10]
Barddoniaeth
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Armstrong, Isobel (2016-03-07). "Barbara Hardy obituary". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2020-03-17.
- ↑ "In memory of Barbara Hardy (1924-2016)". Birkbeck, University of London. Cyrchwyd 2020-03-17.
- ↑ "YOU'RE BOOKED!". The Independent. 1997-05-26. Cyrchwyd 2020-03-17.
- ↑ "Professor Barbara Hardy". Elections to the Fellowship. The British Academy. 2006. Cyrchwyd 17 Mawrth 2020.
- ↑ Hardy, Barbara, 1924-2016. (1975). A reading of Jane Austen. London: Owen. ISBN 0-7206-0134-7. OCLC 2287564.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Hardy, Barbara, 1924-2016. (1985). The moral art of Dickens : essays. London: Athlone Press. ISBN 978-0-567-62030-9. OCLC 271472163.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Hardy, Barbara, 1924-2016. (2000). Thomas Hardy : imagining imagination : Hardy's poetry and fiction. London: Athlone Press. ISBN 1-84714-397-0. OCLC 290576222.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Hardy, Barbara, 1924-2016. (2006). George Eliot : a critic's biography. London: Continuum. ISBN 978-1-4411-4813-1. OCLC 730517927.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Hardy, Barbara, 1924-2016. (1994). Swansea girl : a memoir. London: P. Owen. ISBN 0-7206-0904-6. OCLC 29786012.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Hardy, Barbara, 1924-2016. (1996). London lovers : a novel. London: P. Owen. ISBN 0-7206-0964-X. OCLC 34033464.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Hardy, Barbara Nathan. (2001). Severn Bridge : new and selected poems. Nottingham: Shoestring Press. ISBN 1-899549-54-4. OCLC 48995092.
- ↑ Hardy, Barbara, 1924-2016. (2006). The yellow carpet : new & selected poems. Nottingham [England]: Shoestring Press. ISBN 1-904886-37-X. OCLC 182631404.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Hardy, Barbara, 1924-2016,. Dante's ghosts. Hardy, Kate,. Walthamstow. ISBN 978-1-908133-06-9. OCLC 875172829.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)