Barcud coch
rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Barcud Coch)
Barcud coch | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Falconiformes |
Teulu: | Accipitridae |
Is-deulu: | Milvinae |
Genws: | Milvus |
Rhywogaeth: | M. milvus |
Enw deuenwol | |
Milvus milvus (Linnaeus, 1758) |
Aderyn ysglyfaethus mawr yw'r Barcud coch (hefyd Barcut, Barcutan neu Bod). Ceir yn Ewrop mewn coetir, tir amaeth a'r bryniau. Roedd e'n gyffredin ym Mhrydain tan y 19eg ganrif. Aeth yn brin gyda ond ychydig barau yng Nghymru (yn ardal Pumlumon, Sir Aberteifi) oherwydd helwriaeth trwm ac i wenwyn fynd i'r gadwyn fwyd o ganlyniad i'r dulliau modern o amaethu. Mae'n cynyddu bellach a mae'n cael ei ail-gyflwyno i Loegr a'r Alban.
Mae'r Barcud coch yn frowngoch gyda phen gwelw a darn gwyn o dan yr adain. Mae'r adenydd yn hir a chul ac mae'r cynffon yn fforchog.
Bwyd
golyguCelanedd a charthion fwyaf ond yn eitha catholig ei fwydlen, fel mae'r sylw canlynol yn awgrymu:
- Fwy nag unwaith rhyw chwe wythnos yn ôl ar sawl cae gwair, gweld barcud coch yn hedfan yn isel pan oedd y peiriannau yn gweithio ar y cynhaeaf. Mi ryda ni wedi mynd i feddwl am y deryn fel un ysglyfaethus ac yn gwneud dim ond bwydo ar gelanedd. Mi welais hyn gyntaf sawl blwyddyn yn ôl bellach ar y ffin rhwng yr Almaen a Gwlad Belg lle roedd yr aderyn yn hollol gartrefol gyda'r peiriannau a neb o'r ffermwyr yn gwneud dim sylw ohonynt. Hel pryfed oedd y barcud yn siwr.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- A.V. Cross a P.E. Davies, The Red Kites of Wales (Ymddiriedolaeth Barcutiaid Cymru, 1998)
- John Evans, The Red Kite in Wales (Christopher Davies, 1994)
- Roger Lovegrove, Y Barcud Coch (Cynllun Amddiffyn y Barcud, 1995)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Harri Thomas yn Bwletin Llên Natur, rhif 6