Barddas
Casgliad o ysgrifau gan Iolo Morganwg yw Barddas (The Welsh Manuscripts Society: dwy gyfrol, 1862 a 1874). Honnai'r awdur ei fod yn gasgliad o destunau hynafol beirdd ar athroniaeth dderwyddol y Cymry, ac er y gwyddom bellach mai crebwyll Iolo Morgannwg yw'r Barddas, mae'n dal yn destun craidd pwysig i'r symudiad neo-Derwyddol.
![]() | |
Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig ![]() |
---|---|
Awdur | Iolo Morganwg, John Williams (Ab Ithel) ![]() |
Cyhoeddwr | The Welsh Manuscripts Society ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1862 ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
- Gweler hefyd: Barddas (cylchgrawn)

Ystyr y gair 'barddas' yw "barddoniaeth", neu "ddysg a chelfyddyd y beirdd, cyfundrefn y beirdd." Ceir yr enghraifft gynharaf sydd ar glawr mewn cerdd gan Edmwnd Prys (1543–1623):
- Byr ddeunydd mewn barddoniaeth,
- Barddas wir heb urddas aeth.