The Welsh Manuscripts Society

Sefydlwyd The Welsh Manuscripts Society yn 1836 gan aelodau o Gymdeithas Cymreigyddion Y Fenni fel cymdeithas hynafiaethol gyda'r amcan o gyhoeddi llawysgrifau Cymreig.

The Welsh Manuscripts Society
Enghraifft o'r canlynolcyhoeddwr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1837 Edit this on Wikidata
LleoliadY Fenni Edit this on Wikidata
Prif bwncLlawysgrifau Cymreig, cyhoeddi Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadCymdeithas Cymreigyddion Y Fenni Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Dechreuodd y gymdeithas ei gwaith gyda'r gyfrol Liber Landavensis (Llyfr Llandaf), wedi'i golygu gan W. J. Rees. Yr ail gyfrol yn y gyfres, Heraldic Visitations (1846), sef golygiad o ddwy lawysgrif o'r 16g gan yr achyddwr Lewys Dwnn yw'r bwysicaf o ran ei gwerth ysgolheigaidd parhaol: fe'i golygwyd gan Samuel Rush Meyrick gyda chymorth W. J. Rees. Mae'r cyhoeddiadau a ddilynodd yn llai boddhaol o ran eu hysgolheictod ac yn cynnwys y gyfrol ddylanwadol honno, yr Iolo Manuscripts, sy'n cynnwys rhai o brif ffugweithiau "canoloesol" Iolo Morganwg, wedi'i golygu gan ei fab Taliesin Williams a'r hanesydd Carnhuanawc.

Dan olygyddiaeth John Williams (Ab Ithel) suddodd y safon ysgolheigol ac ystyrir y cyfrolau olaf a gyhoeddwyd — sef Dosparth Edeyrn Davod Aur (ffugiad gan Iolo Morganwg), golygiadau o'r Annales Cambriae a Brut y Tywysogion, Meddygon Myddfai a Barddas (Iolo Morganwg) — yn weithiau na ellir dibynnu arnynt.

Cyhoeddiadau

golygu
  • 1840: Liber Landavensis
  • 1846: Heraldic Visitations (Lewys Dwnn)
  • 1848: Iolo Manuscripts (ffugiadau Iolo Morganwg)
  • 1853: Lives of the Cambro-British Saints
  • 1856: Dosparth Edeyrn Davod Aur (ffugiad gan Iolo Morganwg)
  • 1860: Annales Cambriae and Brut y Tywysogion
  • 1861: Meddygon Myddfai
  • 1862: Barddas (Iolo Morganwg)