Barddoniaeth elegeiog

Barddoniaeth a genir ym mesur y cwpled elegeiog, sef llinell chwebannog wedi ei dilyn gan linell bumban, yw barddoniaeth elegeiog a ddefnyddir gan amlaf mewn galargerddi'r Groegwyr a Rhufeiniaid hynafol.

Barddoniaeth elegeiog
Enghraifft o'r canlynolmesur Edit this on Wikidata
Mathdistichon Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmesur chweban, mesur pumban Edit this on Wikidata

Barddoniaeth Hen Roeg

golygu

Gellir olrhain y mesur elegeiog yn ôl i gyfnod Archäig gwareiddiad Groeg yr Henfyd. Erbyn canol y 7g CC, roedd beirdd yn cyfansoddi drwy'r cyfrwng elegeiog ar naill ochr y Môr Aegeaidd, yn eu plith Archilochus, Callinus o Effesws, a Tyrtaeus. Bu barddoniaeth elegeiog ar ei hanterth hyd at ddiwedd y 5g CC, a ambell fardd yn defnyddio'r mesur hwnnw a dim arall. Defnyddiwyd i gyfansoddi galargerddi (elegos) yn ogystal ag epigramau. Enghraifft o farddoniaeth lafar oedd yr elegos, i'w canu i gynulleidfa ar achlysuron cymdeithasol. Arysgrifau i nodi gwybodaeth oedd epigramau yn y cyfnod Archäig, a ysgrifennwyd ar gerrig beddau, er enghraifft. Wedi'r 4g CC, ymddengys yr epigram elegeiog yn fwyfwy fel ffurf lenyddol.

Priodolir rhyw 1,400 o linellau elegeiog, sydd yn dyddio o'r 7g CC i ddechrau'r 5g CC, i Theognis. Nid gwaith un bardd yn unig yw traddodiad Theognis, er mae'n ddigon tebyg i ddyn o Megara o'r enw hwnnw a flodeuai yn y 6g CC gyfrannu at y corff hwn.