Môr Aegeaidd
môr
(Ailgyfeiriad o Y Môr Aegeaidd)
Braich o'r Môr Canoldir yw'r Môr Aegeaidd (neu'r Môr Egeaidd neu Môr Aegea). Fe'i lleolir rhwng Gwlad Groeg ac Anatolia (Twrci). Mae'r Dardanelles, Môr Marmara a'r Bosphorus yn ei gysylltu â'r Môr Du.
Math | môr, basn draenio |
---|---|
Enwyd ar ôl | Aegeus |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Eastern Mediterranean |
Sir | Gwlad Groeg, Twrci |
Gwlad | Gwlad Groeg, Twrci |
Arwynebedd | 214,000 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 38.5°N 25.3°E |
Mae gan y môr arwynebedd o 214 000 km², ac mae'n mesur 610 km o'r de i'r gogledd a 300 ar draws. Ar ei ddyfnaf mae'n cyrraedd 3,543 metres, i'r dwyrain Crete. I'r de mae ynysoedd Kythera, Antikythera, Crete, Karpathos a Rhodes yn diffinio ei derfyn.
Mae'n cynnwys nifer fawr o ynysoedd. Gellir eu dosbarthu'n saith grŵp:
- Ynysoedd Gogledd-ddwyrain Môr Aegea
- Euboea a'i rhag-ynysoedd
- Ynysoedd Sporades Gogleddol
- Cyclades
- Ynysoedd Saronica,
- Dodecanese (Sporades Deheuol)
- Creta