Ffuglen a barddoniaeth a drosglwyddir o oes i oes ar lafar yn hytrach na thrwy ysgrifennu yw llên lafar. Gall gyfeirio at holl lenyddiaeth y gymdeithas gynlythrennog yn ogystal â thraddodiadau llafar y werin mewn cymdeithasau llythrennog.[1]

Bu traddodiad o lên lafar gan y mwyafrif o gymdeithasau cynlythrennog, gan gynnwys straeon gwerin, chwedlau, diarhebion, rhigymau, dychmygion, a damhegion yn ogystal â gweithiau traethiadol hir. Cafodd mytholeg ac arwrgerddi'r Henfyd eu haddasu a'u datblygu gan feirdd llafar dros ganrifoedd cyn iddynt gael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

Mae llên lafar yn gorgyffwrdd i raddau helaeth â llên gwerin, ac yn un o brif feysydd y traddodiad llafar, ynghyd ag hanes llafar a chyfraith lafar.

Ffurfiau a genres golygu

Straeon gwerin golygu

Mae straeon gwerin yn gyffredin i bob diwylliant ar draws y byd, yn eu plith straeon plant, ffablau, damhegion, a straeon tarddiad. Cofnodwyd nifer o straeon gwerin Ewropeaidd yn y cyfnod modern, gan gynnwys Les Contes de ma mère l’Oye gan Charles Perrault a Kinder- und Hausmärchen gan y Brodyr Grimm.

Arwrgerdd golygu

Prif: Arwrgerdd

Barddoniaeth draethiadol ar ffurf cerdd hir neu gylch o gerddi yw arwrgerdd neu epig sy'n adrodd hanes mawr am ryw gorchwyl caled neu gampau beiddgar, gan canolbwyntio ar arwr neu griw o gymeriadau dewr, fel arfer gyda themâu cenedlaetholgar, mytholegol, neu grefyddol. Rhennir y genre hon yn arwrgerddi cynradd, sy'n tarddu o'r traddodiad llafar, ac arwrgerddi eilaidd, a gyfansoddir yn ysgrifenedig gan awduron unigol. Dull o drosglwyddo hanes a mytholeg o oes i oes oedd arwrgerddi cynradd yr Henfyd, a gwnaethpwyd hynny ar lafar ac o'r cof. Byddai'r genhedlaeth iau yn addasu ac ychwanegu at hanes traddodiadol a chwedloniaeth eu cyndeidiau, gan ddatblygu llên llafar oedd yn ganolog i ddiwylliant eu cymdeithas am ganrifoedd. Mae'r fath farddoniaeth yn darlunio rhyw oes arwrol neu euraid, neu'n adrodd straeon tarddiad am ddechreuad y byd neu wawr y genedl.

Yr arwrgerdd hynaf yr ydym yn gwybod amdani yw Epig Gilgamesh, cerdd Swmereg o Fesopotamia sy'n dyddio ar ei ffurf ysgrifenedig o 2100 CC. Yr arwrgerddi hynaf a phwysicaf yn llên Ewrop a chanon y Gorllewin yw'r Iliad a'r Odyseia, a briodolir i Homeros. Cyn iddynt gael eu cofnodi, roeddynt yn rhan o draddodiad llafar beirdd yr Hen Roeg a chawsant eu canu o'r cof mewn gwleddoedd neu ymgynulliadau tebyg. Ymhlith arwrgerddi traddodiadol eraill mae Ramayana a Mahabharata'r Indiaid, Beowulf yr Eingl-Sacsoniaid, a Kalevala'r Ffiniaid.

Drama werin golygu

 
Perfformiad o chwedl San Siôr a'r Ddraig gan fudchwaraewyr yn St Albans, Swydd Hertford.

Tarddai traddodiad y theatr Ewropeaidd o ddefodau a pherfformiadau crefyddol yr Henfyd. Ni cheir fawr o draddodiad seciwlar ym mherfformiadau diwylliannau cynlythrennog. Datblygodd ffurfiau ar y ddrama werin yn Ewrop, megis mudchwarae a miraglau, mewn cyferbyniad â dramâu ysgrifenedig y theatr fawr.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Oral literature. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ebrill 2019.