Bariau (cyfres deledu)

Drama deledu yw Bariau. Mae wedi'i leoli mewn carchar dynion ac wedi eu seilio ar dystiolaeth carcharorion a swyddogion carchar go iawn. Awdur y gyfres yw Ciron Gruffydd a'r cyfarwyddwr yw Griff Rowland. Cynhyrchwyd y gyfres gan Rondo Media ac fe'i ffilmiwyd yn Stiwdios Ffilm Aria yn Llangefni.[1]

Bariau
Genre Drama
Serennu Annes Elwy, Gwion Tegid
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 2
Nifer penodau 12 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg tua 30 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Rondo Media
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Dolenni allanol
Proffil IMDb

Mae 6 pennod ymhob cyfres. Mae'r gyfres yn ymrafael â sawl pwnc cignoeth a heriol ac felly darlledwyd y gyfres mewn slot hwyr.[2] Dangoswyd y ddrama ar nos Wener am 10.40pm ar S4C gyda'r gyfres gyntaf ym mis Ionawr 2024 ac ail yn 2025.[3]

Cynhyrchiad

golygu

Mae'r ddrama wedi ei osod mewn carchar ffuglennol yng Nghymru 'HMP Glannau'. Mae'r ddrama yn ddwyieithog sy'n adlewyrchu natur y sefydliad gyda carcharion o Gymru a Lloegr. Adeiladwyd set carchar gyda 24 cell dros ddwy lawr yn Stiwdios Aria, Llangefni. Sefydlwyd y stiwdios gan Rondo Media a changen fasnachol S4C, S4C Digital Media Limited, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Agorodd y stiwdios ym mis Hydref 2022 a mae'n cynnwys dau lwyfan sy'n darparu 20,000 troedfedd sgwâr o ofod ffilmio.

Roedd y cynhyrchiad yn cyflogi tua 80 o bobl, gan gynnwys 18 o gyn weithwyr ffatri ieir 2 Sisters – ffatri fawr yn Llangefni a gaeodd ei drysau yn 2023.[1]

Cast a chymeriadau

golygu
  • Annes Elwy fel Elin
  • Gwion Tegid fel Barry
  • Adam Woodward fel Kit
  • Bill Skinner fel George
  • Rolant Prys fel Ned
  • Mali Tudno Jones fel Linda
  • Mair Tomos Ifans fel Cath
  • Glyn Pritchard fel Peter
  • Hywel Morgan fel Mitchell
  • Dion Lloyd fel Davies
  • Cadfan Roberts fel Roberts
  • Gwen Ellis fel Margaret
  • Gabin Kongolo fel Hussein
  • Iago Patrick McGuire fel Graham
  • Lily Beau fel Morwenna
  • Iwan Garmon fel Dale

Penodau

golygu
# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr S4C [4]
1"Pennod 1"Griff RowlandCiron Gruffydd5 Ionawr 202424,000
Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
2"Pennod 2"Griff RowlandCiron Gruffydd12 Ionawr 202432,000
Wrth i Barry ddod dan bwysau am ei benderfyniad annoeth werthu'r cyffuriau oedd o wedi eu darganfod, mae'n ceisio dal pen rheswm gyda'r perchennog. Pan mae hynny'n gwneud y sefyllfa'n waeth, does ganddo ddim dewis ond mynd mewn i bartneriaeth gyda Kit. Mae Peter yn edrych ymlaen at ymweliad ei fam, ond mae amgylchiadau tu hwnt i'w reolaeth yn ei wthio dros y dibyn. Mae perthynas Elin a George yn poethi, ond mae gan Elin ei amheuon.
3"Pennod 3"Griff RowlandCiron Gruffydd19 Ionawr 202418,000
Mae Barry'n gorfod wynebu realiti gweithio i Kit. I wneud pethau'n waeth, mae'n cael ymweliad gan ei frawd bach, Dale, sy'n datgelu ei fod mewn trafferthion ariannol dybryd. Er bod Barry'n ceisio ei helpu, mae'r sgwrs yn troi'n ffrae ac mae Dale yn gadael dan gwmwl. Mae Elin yn sylweddoli bod George wedi ei thwyllo wedi'r cwbl, ac mae'n gwneud yn amlwg iddi fod ganddi ddim dewis ond mynd yn erbyn ei hegwyddorion. Wrth i Barry ailfeddwl ei berthynas gyda Kit, mae'n cael gwybodaeth sy'n golygu na
4"Pennod 4"Griff RowlandCiron Gruffydd26 Ionawr 202430,000
Yn difaru ei ffrae gyda Dale, a gyda Kit yn ei reoli fel pyped, mae'r pwysau'n ormod i Barry ac mae'n troi at ddulliau treisgar i gael gwared a'i rwystredigaeth. Mae Peter yn cael newyddion drwg sy'n ei arwain i le tywyll iawn ac mae ymateb Linda'r caplan i'w ddatganiad yn torri ei galon. Mae Elin yn darganfod mai Kit sydd tu ôl i'r ymgais i'w blacmelio, ac mae hi'n penderfynu mai'r unig ffordd allan iddi yw i'w herio wyneb yn wyneb.
5"Pennod 5"Griff RowlandCiron Gruffydd2 Chwefror 2024dan 17,000
Mae Barry'n darganfod bod ei fywyd mewn perygl oherwydd y gwaith mae'n gwneud i Kit, a phan mae Dale yn cerdded mewn i'r wing fel carcharor, mae ei ben ar chwâl yn llwyr. Wrth i Elin a Ned gael eu galw i weld y Warden, maen nhw'n darganfod bod y wing yn cael ei roi dan fesurau arbennig ac mae eu swyddi yn y fantol. Mae Elin yn cytuno smyglo cyffuriau mewn i'r carchar i Kit, ond pan mae hi'n darganfod bod Barry'n gweithio i Kit, mae ganddi un gobaith arall i ddod a'r hunlle i ben.
6"Pennod 6"Griff RowlandCiron Gruffydd9 Chwefror 2024dan 21,000
Wrth i Elin gyrraedd y carchar yn y bore, yn cario cyffuriau i Kit, mae hi'n cael sioc wrth glywed bod y carchar yn cael adolygiad y diwrnod hwnnw. Gyda'r cyffuriau yn gorfod aros ar y tu allan, mae Barry'n cael traed oer ac yn penderfynu nag allith o helpu Elin rhagor. Mae Kit yn colli amynedd gyda phawb sy'n gweithio iddo ac yn bygwth Elin, ond mae hi'n llwyddo i ddod o hyd i'r nerth i dorri'n rhydd o'r diwedd. Mae digwyddiadau'r wythnosau diwethaf yn torri Barry, ond mae ei berthynas gyda Lin

Cyfeiriadau

golygu
  1. Neidio i: 1.0 1.1 "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2024-12-14.
  2. "'Bariau' yn dychwelyd am ail gyfres yn 2025". Golwg360. 2024-03-12. Cyrchwyd 2024-12-14.
  3. "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2024-12-14.
  4. Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol

golygu