Actores, llenor, cantores a storïwraig o Gymru yw Mair Tomos Ifans (ganwyd Ebrill 1960).[1] Cafodd ei magu yn Abergynolwyn a Harlech. Astudiodd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru.

Mair Tomos Ifans
GanwydEbrill 1960
Abergynolwyn, Gwynedd
Llysenw/auMair Harlech
DinasyddiaethCymraes
Alma materColeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
GalwedigaethActores, llenor, storïwraig a chantores gwerin

Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni'r Frân Wen.[2] Mae hi wedi ymddangos ar lwyfannau a sgriniau Cymru ers y 1980au, a'r mwyaf diweddar yn y cyfresi Rybish a Bariau ar S4C.

Gall ganu'r delyn, y piano, y gitar a theulu'r recorder. Enillodd nifer o wobrau am ganu, gan gynnwys Gwobr Goffa Elfed Lewys am ganu baled yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009.[2]

Yn 2001, fe dreuliodd hi flwyddyn yn byw ar Ynys Enlli.[3]

Mae Mair wedi bod yn storïwraig ers ugain mlynedd, gan ganolbwyntio ar gyflwyno straeon, caneuon, ac arferion traddodiadol Cymru.[4]

Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Gwylliaid Cochion y Llew.[5]

(Detholiad)

Theatr

golygu

Teledu a ffilm

golygu

Llyfrau

golygu
  • Caneuon Ffaldi-Rwla-la
  • Nadolig yn Rwla
  • Rala la la - Caneuon o Wlad y Rwla
  • Chwarae'r Gêm (2012)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Mair Tomos IFANS personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-24.
  2. 2.0 2.1 "Manylion Mair Tomos Ifans o wefan Y Lolfa".
  3. "Ynys Enlli / Bardsey Island - (English below) Mae'r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn cychwyn penwythnos yma! Fydd Dydd Sul yn ddiwrnod i ddathlu Enlli yn y Lle Celf gyda nifer o ddigwyddiadau a sgyrsiau yn digwydd trwy gydol y diwrnod, gan gynnwys: 10.30 - Dosbarth Meistr Argraffu gyda Kim Atkinson 13.30 - Sgwrs ddarluniadol ar waith Brenda Chamberlain gan Dr Ceridwen Morgan 15.00 - Sgwrs banel am ysbrydoliaeth Ynys Enlli ar waith a bywyd Mair Tomos Ifans, Catrin Menai, Iestyn Tyne ac Elin Gruffydd Wedyn am 5yp yn y Sinemaes fydd ddangosiad o ffilm fer Mari Huws 'Ar Un Anadl' sydd yn dogfennu blwyddyn o ddysgu deifio ar un anadl yn nyfroedd gwyllt a hudolys Ynys Enlli. --------- The National Eisteddfod in Boduan begins this weekend, and this Sunday is 'Enlli Day' in the Lle Celf (Arts Space). There are lots of activities, tours and discussions taking place throughout the day including: 10.30 - A masterclass with Kim Atkinson 13.30 - A discussion about the work of Brenda Chamberlain with Dr Ceridwen Morgan 15.00 - A panel discussion on how Enlli inspires the arts with Mair Tomos Ifans, Catrin Menai, Iestyn Tyne and Elin Gruffydd Whilst at 5pm at the Sinemaes there will be a showing of a short film by Mari Huws called 'On one breath' - documenting a year of learning to dive on one breath in the wild and magical waters of Enlli. | Facebook". www.facebook.com. Cyrchwyd 2024-09-24.
  4. "Storïau, Cân a Thelyn gyda'r storïwr Cymraeg Mair Tomos Ifans -…". Oriel Davies Gallery. Cyrchwyd 2024-09-24.
  5. "Mair Tomos Ifans". Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod. Cyrchwyd 2024-09-24.