Griff Rowland
Mae Griff Rowland (ganwyd 12 Gorffennaf 1969) yn gyfarwyddwr drama o Gymru sy'n gweithio ar sioeau teledu gan gynnwys Y Gwyll, Holby City, Coronation Street a Hollyoaks.[1]
Griff Rowland | |
---|---|
Ganwyd | Gruffudd Rowland Williams 12 Gorffennaf 1969 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu, nofelydd |
Tad | J. Gwynn Williams |
Mam | Beryl Stafford Williams |
Ganwyd a magwyd Gruffudd Rowland Williams ym Mangor, yn fab i'r athrawes Beryl Stafford Williams a'r hanesydd J. Gwynn Williams.[2] Aeth i Ysgol Tryfan.[3]
Roedd yn gyfarwyddwr ar Coronation Street rhwng Medi 2010 a Mehefin 2014, gan gyfrannu 62 pennod gan gynnwys un bennod ddwbl.
Yn enedigol o Gymru, mae wedi bod yn gyflwynydd i S4C ac wedi cynhyrchu a chyfarwyddo Doctor Who Confidential ar gyfer y BBC. Mae hefyd wedi cyfarwyddo Wizards vs Aliens, Ruth Jones’ Christmas Cracker, Beryl, Cheryl a Meryl, Cowbois ac Injans, Pobol y Cwm, Hollyoaks, Holby City a rhaglenni dogfen gan gynnwys Miami West Wales, Hardeep Singh Kholi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac A Taste of Hay.
Yn 2013 cyhoeddodd nofel ddigrif The Search for Mister Lloyd gan ennill Wobr Tir Na N-Og amdano yn 2016.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 9790000000000, 0". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ (Saesneg) Griff Rowland Wins Tir na n-Og for Children and Young Adult Books. http://www.literaryfestivals.co.uk+(28 Mai 2016).
- ↑ "Nabod yr Awdur - Cyngor Llyfrau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-11. Cyrchwyd 2020-01-11.
- ↑ "'The Search For Mister Lloyd' announced as winner of 2016 Tir na n-Og Award". News Powered by Cision. Cyrchwyd 2020-01-11.