Seiclwr ffordd Seisnig oedd Barry Hoban (ganwyd 5 Chwefror 1940, Wakefield, Gorllewin Swydd Efrog). Bu'n rasio yn yr 1960au a'r 1970au, ac mae'n dal recordiau am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau mewn cymalau o'r Tour de France gan seiclwr Prydeinig, gan ennill wyth rhwng 1967 a 1975, ac am y nifer fwyaf o'r Tour a gyflawnwyd gan seiclwr Prydeinig, gan orffen 11 o'r 12 a ddechreuodd rhwng 1965 ac 1978. Ef hefyd, yw'r unig Brydeinwr i ennill dau gymal canlynol o'r Tour.

Barry Hoban
Dyddiad geni (1940-02-05) 5 Chwefror 1940 (84 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Golygwyd ddiwethaf ar
5 Hydref 2007

Gyrfa Cynnar golygu

Dechreuodd Hoban rasio yn 1955, ac erbyn diwedd y flwyddyn roedd yn cystadlu yn erbyn Tom Simpson mewn Treialon Amser. Dwy flynedd yn ddiweddarach, daeth yn bedwerydd ym mhencampwriaeth dringo allt y British League of Racing Cyclists. Er i'w ddringo fod yn gryfder iddo yn gynnar yn ei yrfa, ei sbrintio oedd iw sefydlu fel un o sbrintwyr gorau Ewrop.

Cafodd Hoban ei ysbrydoli gan lwyddiant Ewropeaidd ei gyd-Efrogwyr, Brian Robinson a Tom Simpson, aeth i Ffrainc yn 1962, trodd yn broffesiynol dyflwydd yn ddiweddarach ac arhosodd dramor am 16 mlynedd arall.

Buddugoliaethau mewn Cymalau'r Tour de France golygu

Buddugoiaethau Eraill Nodweddiadol golygu

Enillodd Hoban bedwar cymal o'r Vuelta a España yn 1964 a enillodd y Gent-Wevelgem yn 1974. Yng nghlasuron y ffordd, ei ganlyniad orau oedd trydydd yn y Liège-Bastogne-Liège 1969 a Paris-Roubaix 1972. Gwariodd y rhanfwyaf o'i amser tuag at ddiwedd ei yrfa yn nhir mawr Ewrop, dychwelodd i Brydain i gystadlu ar adegau gan ennill ras Llundain-Bradford a dod yn ail ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Proffesiynol Prydain yn 1979, enillodd hefyd Grand Prix Manceinion yn 1980.

Gwneuthurwyd o leiaf un beic gyda enw Hoban arni.

   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.