Mae'r term Treialon Amser i'w gael mewn nifer o chwaraeon rasio. Mae unigolyn (neu weithiau tîm) yn rasio yn erbyn y cloc i gael yr amser cyflymaf am gyflawni cwrs penodedig. Dyma o ble y daw'r term Ffrangeg: Contre-la-montre, yn llythrennol 'yn erbyn y cloc', y term Saesneg: yw Time Trial a caiff hwn ei fyrhau'n aml i TT.

Treial Amser
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth chwaraeon, sporting event Edit this on Wikidata
Mathras Edit this on Wikidata

Ym myd seiclo, er enghraifft, mae'n arferol i glybiau amatur ddal Treialon Amser ar y ffordd agored (10 milltir yn draddodiadol, gyda Treial Amser 25 milltir rwan ac yn y man) yn wythnosol yn ystod y tymor rasio rhwng mis Mawrth a Medi, anfonir cystadleuwyr i ffwrdd gydag ysbaid 60 eiliad rhwng pob un fel arfer. Cyfeirir at rhain fel Dechreuon Ysbaid. Gall treial amser hefyd fod yn ras seiclo trac neu ar y ffordd, ac weithiau bydd yn rhan o Ras Sawl Cam, megis y Tour de France.

Mae rasys tebyg, yn erbyn y cloc, ymosod amser, yn bodoli mwn nifer o emau fideo.

Yng nghystadleuthau sgïo traws gwlad a biathlon, caiff sgïwyr eu hanfon allan gydag ysbaid o 30 i 60 eiliad rhwng pob un.

Yn nhreialon amser rhwyfo, caiff y cychod eu hanfon allan gyda ysbaid o 10 i 20 eiliad rhwng pob un, gelwir rhain fel arfer yn "rasys pen."

Gweler Hefyd golygu

Dolenni Allanol golygu